Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyhoeddi rhestr fer dysgwr y flwyddyn Eisteddfod 2025
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cyhoeddi rhestr fer dysgwr y flwyddyn Eisteddfod 2025
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Cyhoeddi rhestr fer dysgwr y flwyddyn Eisteddfod 2025

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 20, 2025 10:00 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Lucy Cowley
Lucy Cowley
RHANNU

Heddiw (19 Mehefin), cyhoeddwyd pwy yw’r pedwar sy’n cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni. Trefnir y gystadleuaeth ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Y rheini a ddaeth i’r brig eleni oedd Rachel Bedwin sy’n byw yn ardal Bangor, Lucy Cowley sy’n byw yn Llangollen, Hammad Hassan Rind sy’n byw yng Nghaerdydd, a Leanne Parry sy’n byw ym Mhrestatyn.

Beirniaid y gystadleuaeth yw Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes, a chynhelir y rownd derfynol ar Faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher 6 Awst eleni.

Meddai’r beirniaid, “Roedd yn bleser pur cwrdd â’r siaradwyr newydd oedd wedi ymgeisio am gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2025. Roedd pob un ohonyn nhw’n dweud bod dysgu’r Gymraeg wedi ysgogi newid yn eu bywydau ac wedi agor y drws ar gyfoeth o brofiadau gwerthfawr, a llu o ffrindiau newydd. Roedd eu hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.

“Daeth pedwar i’r brig o blith yr ymgeiswyr disglair. Roedd gwrando ar eu profiadau o ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn ysbrydoliaeth, a ‘dyn ni’n eu llongyfarch nhw, a’r holl ymgeiswyr.”

A phwy felly yw’r pedwar? Dyma ychydig o’u hanes a’u taith gyda’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.

Rachel Bedwin
Rachel Bedwin

O Lundain y daw Rachel Bedwin yn wreiddiol, a dywed nad oedd ganddi gysylltiad â Chymru, ac y byddai’i bywyd wedi bod yn wahanol iawn petai heb ddysgu Cymraeg.

Yn byw yn ardal Bangor erbyn hyn, symudodd i Gymru i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Erbyn hyn, mae’n gweithio yn adran Polisi ac Eiriolaeth RSPB Cymru, ac yn defnyddio cymaint o Gymraeg â phosibl yn y gwaith.

Un o’i huchelgeisiau yw cael trafod polisi natur gydag Aelodau’r Senedd yn y Gymraeg. Mae’n aelod o gôr Cymraeg lleol ac yn mwynhau helpu aelodau eraill gyda’u Cymraeg gan ei bod yn credu fod dysgu’r iaith yn gallu newid bywydau pobl.

Lucy Cowley
Lucy Cowley

Daw Lucy Cowley o Is-y-Coed, Wrecsam, sef cartref yr Eisteddfod eleni. Roedd ei thaid yn ffoadur o Wlad Pwyl a’i nain yn ffoadur o’r Wcrain.

Er ei bod hi wedi cael rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, ‘doedd hi ddim yn hyderus, ond wrth weithio fel athrawes yn Ysgol Holt, sylweddolodd ei bod wrth ei bodd yn rhannu’r Gymraeg gyda’r plant. Aeth ati i ati ddilyn cyrsiau, a dechrau defnyddio adnoddau Cymraeg yn y dosbarth.

Mae hi’n byw yn Llangollen ac wedi sefydlu grŵp trafod Cymraeg yn y dref, sy’n denu criw o bobl o gefndiroedd amrywiol, rhai yn ddysgwyr newydd ac eraill yno i ail afael yn eu Cymraeg. Mae’n cynllunio gemwaith a daeth â stondin i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Hammad Hassan Rind
Hamman Hassan Rind

Mae Hammad Hassan Rind a’i wraig, Charlotte yn dysgu Cymraeg ers ychydig dros flwyddyn a hanner, ac mae’n hynod o frwd dros y Gymraeg ac yn helpu eraill sydd yn y dosbarth.

Mae hefyd yn dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a ffoaduriaid gyda ‘Made in Roath’, gan ddefnyddio’r ieithoedd eraill mae’n eu siarad i gyfathrebu wrth ddysgu.

Mae’n aelod o grŵp o wirfoddolwyr sy’n cydweithio i ddod â mwy o weithgareddau Cymraeg i Grangetown.

Dros y misoedd diwethaf mae Hammad wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth, erthyglau a straeon yn y Gymraeg, ynghyd â chyfieithu cerddi o’r Arabeg i’r Gymraeg. Eleni, bydd yn cychwyn cwrs PhD ar lenyddiaeth Gymraeg, wedi’i ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd.

Leanne Parry
Leanne Parry

Dychwelodd Leanne Parry i ogledd Cymru i ail-gydio yn y Gymraeg a magu’i mab yn ddwyieithog, ar ôl astudio’r iaith hyd at safon TGAU ail iaith yn yr ysgol.

Mae’n gweithio fel ffisiotherapydd niwrolegol yn Ysbytai Glan Clwyd a Bae Colwyn ac yn gweithio gyda phobl â chyflyrau fel MS a Parkinson’s. Bu cynllun iechyd a gofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn allweddol i’w thaith iaith; manteisiodd yn fawr ar arlwy’r bwrdd iechyd lleol i ddysgu Cymraeg, ac yn 2024, enillodd deitl ‘Dysgwr y Flwyddyn Betsi Cadwaladr’ ar lefel canolradd.

Yn wreiddiol o’r Rhyl, mae Leanne yn byw ym Mhrestatyn, lle mae’n cyfarfod â dysgwyr eraill yn rheolaidd i ymarfer eu Cymraeg.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Mercher 6 Awst am 13:30, a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn, yn rhoddedig gan Spencer a Jeni Harris, a £300, yn rhoddedig gan Ann Aubrey. Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.

Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, ewch i www.eisteddfod.cymru, ac am fwy am waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, cliciwch ar www.dysgucymraeg.cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
Erthygl nesaf aging couple Heneiddio’n Dda – cewch wybod mwy ar 26 Mehefin

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English