Yn 2020 cynhelir yr ŵyl arddangos ryngwladol FOCUS Wales am y 10fed tro yn Wrecsam. Bydd dros 250 o actau o Gymru a phob cwr o’r byd yn perfformio yn yr ŵyl yn Wrecsam rhwng 7 a 9 Mai 2020. Ac mae FOCUS Wales bellach wedi datgelu pwy fydd y 50 act cerddoriaeth newydd cyntaf a fydd yn chwarae yng ngŵyl 2020.
Rhai o’r actau cyntaf i gael eu cyhoeddi yw…
Blaenwr y band Super Furry Animals ac eicon cerddorol arobryn Gruff Rhys, a fydd yn chwarae am y tro cyntaf yn FOCUS Wales. Bydd band ‘indie buzz’ y Flamingods hefyd yn ymuno â’r ŵyl ar ôl rhyddhau eu halbwm Levitation sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth yn 2019. Bydd y cerddorion arobryn Catrin Finch a Seckou Keita yn arddangos prosiect y maent wedi bod yn gweithio arno ar y cyd yn FOCUS Wales, ochr yn ochr ag enillwyr gwobrau gwerin BBC Radio 2 sef The Breath a The Trials of Cato. Hefyd ar y rhestr mae ffefrynnau 6Music JOHN, sydd wedi bod yn creu cynnwrf yn dilyn eu taith ddiweddar yn cefnogi Idles.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
“Artistiaid eraill sydd wedi cael eu cyhoeddi yw”
Georgia Ruth | Gallops | Accü | Art School Girlfriend | Ynys | Buzzard Buzzard Buzzard | Seazoo | Golden Fable | Adwaith | Panic Shack | Worldcub | Goodbye Honolulu | Campfire Social | Natalie McCool | Wolf & Moon | Melin Melyn | Cara Hammond | Bryony Sier | Dienw | Elis Derby | Hannah Willwood | Pint+Blister | Flamingo House | Hellfire Devilles | She’s Got Spies | The Cazales | The Routines | The Royston Club | The Zangwills | Emily Magpie | Eve Goodman | Evie Moran | The Besiders | Chupa Cabra | Eitha Da | Delta Radio | Baby Brave | Kidsmoke | Jack Found | Blind Wilkie McEnroe | Vishten. I weld y rhestr lawn o’r 50 act, ewch i wefan www.focuswales.com yn ogystal ag artistiaid o Ganada, yr Almaen, Iwerddon a’r Iseldiroedd… hefyd 200 o actau eraill sydd heb eu cyhoeddi eto!
“Dros 400 o gynrychiolwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth”
Bellach, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddorol yng Nghymru, gyda thri diwrnod o baneli, sgyrsiau a chyngor am y diwydiant, bydd mwy na 400 o gynrychiolwyr proffesiynol y diwydiant yn dod i Wrecsam o bedwar ban byd. Mae’r siaradwyr gwadd cyntaf i’w cyhoeddi yn cynnwys: David Silbaugh (Summerfest, yr Unol Daleithiau), Henca Maduro (New Skool Rules, Yr Iseldiroedd), Kaptin Barrett (Gŵyl Boomtown), Emma Zillmann (Gŵyl Blue Dot / Kendal Calling), Lisa Schwartz (Gŵyl Werin Philadelphia, Yr Unol Daleithiau), a Stephen Budd (Africa Express / OneFest).
Cynhelir FOCUS Wales 2020 ar 7, 8 a 9 Mai mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae bandiau arddwrn ar gyfer y tri diwrnod llawn, gan gynnwys holl ddigwyddiadau FOCUS Wales, ar gael ar www.focuswales.com/tickets
Dyma ragflas o’r arlwy:
Mae FOCUS Wales wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr wŷl orau ar gyfer talent newydd yn yr UK Festival Awards. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ym mis Rhagfyr.
Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD