Ydych chi’n gyfrifol am brosiect cymunedol sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia?
Neu, hoffech chi sefydlu prosiect i gefnogi a helpu pobl sy’n byw gyda dementia yn eu cymunedau eu hunain?
Os felly, fe allwch chi fod yn gymwys i dderbyn grant tuag at gostau rhedeg eich grŵp.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Mae’r grant ar gael i sefydlu prosiectau cefnogi newydd neu i estyn prosiectau presennol i ddiwallu anghenion pobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned.
Dylai prosiectau cymwys gefnogi annibyniaeth, iechyd a lles unigolion sy’n byw gyda dementia a hynny, yn ddelfrydol, yn eu cymunedau. Dylai prosiectau fod yn gynaliadwy lle bo hynny’n briodol.
Pryd a sut i wneud cais?
Gellir gofyn am ffurflen gais gan y Tîm Comisiynu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond caiff ceisiadau eu hystyried gan y Panel Grantiau oddeutu bedair gwaith y flwyddyn.
Bydd y dyddiadau’n cael eu nodi’n glir ar y ffurflen gais.
E-bost: commissioning@wrexham.gov.uk
Rhif ffôn: 01978 298617
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB