Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyllid grant ar gael i fusnesau canol y dref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyllid grant ar gael i fusnesau canol y dref
Y cyngor

Cyllid grant ar gael i fusnesau canol y dref

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 6, 2020 3:31 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Grant
RHANNU

Mae cyllid grant newydd ar gael ar gyfer busnesau yng nghanol y dref i’w helpu i gyrraedd mwy o gwsmeriaid a chadw pellter cymdeithasol yr un pryd, gan sicrhau ymdeimlad o les a diogelwch yn yr ardal.

Caiff ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan y Cyngor, a’i enw yw Grant Thematig Covid 19 Trawsnewid Trefi.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Cewch ei ddefnyddio i brynu asedau sefydlog penodol yn unig, fel byrddau awyr agored, cadeiriau, seddi a chyfleusterau cownter arlwyo, cysgodlenni a chanopïau awyr agored, sgriniau, bolardiau, cynwysyddion planhigion a mesurau cadw pellter cymdeithasol. Ni chaiff gefnogi unrhyw gostau refeniw fel cynnal a chadw, nwyddau na gwasanaethau.

Gall busnesau wneud cais am uchafswm o £2,000 neu 80% o’r gost, yn dibynnu pa un yw’r isaf.

Croesawir ceisiadau ar y cyd.

Gallwch wneud cais am y grant drwy fynd i: https://www.wrecsam.gov.uk/service/covid-19-cefnogaeth-i-fusnesau/grant-thematig-trawsnewid-trefi-covid-19

Mae’r cyllid grant hwn yn gyfle gwych i fusnesau

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd: “Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi masnachwyr wrth i fwy o bobl ddod allan o’r cyfnod clo ac i mewn i ganol y dref. Mae’r grant hwn yn gyfle gwych i eiddo ehangu ar y palmant er mwyn cynyddu niferoedd eu cwsmeriaid a sicrhau eu bod hefyd yn cadw pellter cymdeithasol diogel. Bydd cwsmeriaid yn teimlo’n ddiogel a bydd canol y dref yn edrych ac yn teimlo’n fwy deniadol.”

Yn ogystal â’r grant newydd, mae’r Cyngor yn parhau i weithredu’r cynlluniau canlynol i helpu busnesau yng Nghanol Tref Wrecsam.

Mae’r Grant Gwella a Datblygu Eiddo yn cynnig cyllid llenwi bwlch i feddianwyr a pherchnogion adeiladau masnachol, er mwyn gwella tu blaen adeiladau, gwella ansawdd arwyddion a dod ag arwynebedd llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd busnes buddiol. Bydd hyn yn helpu creu busnesau newydd ac yn galluogi busnesau presennol i dyfu, ac hefyd yn helpu gydag adfywiad cyffredinol yr ardal. Mae’r cyfle hwn ar gael tan ddiwedd Mawrth 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i grants@wrexham.gov.uk i gael ffurflen cyn gwneud cais a manylion pellach.

Mae cynllun Benthyciad Adfywio Canol y Dref ar gael i berchnogion eiddo masnachol sydd angen eu gwella neu newid eu defnydd, o fewn Canol Tref Wrecsam.

Diben y benthyciad yw gwella’r eiddo er mwyn i’r perchennog barhau i’w ddefnyddio, ei werthu, ei rentu neu i agor safle gwag neu safle sydd wedi’i ddal yn ôl. Ni chewch ddefnyddio’r benthyciad i ad-dalu unrhyw arian rydych chi eisoes wedi’i fenthyca. Isafswm y benthyciad sydd ar gael yw £5,000, hyd at uchafswm o £1,000,000. Tymor hiraf y benthyciad yw 5 mlynedd. Gallwch ddefnyddio’r benthyciad ar y cyd â’r Grant Gwella a Datblygu Eiddo neu Grant Thematig Covid 19 Trawsnewid Trefi.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i loans@wrexham.gov.uk i gael ffurflen cyn gwneud cais a manylion pellach.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Arrest Arestio unigolyn yn dilyn digwyddiad oddi ar y ffordd
Erthygl nesaf Red Lion pub in Marchwiel, Wrexham Cyflwyno hysbysiad gwella ar y Red Lion, Marchwiail

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English