Newyddion da oedd clywed fod prosiect treftadaeth mawr wedi llwyddo i gael dros £800,000 gan gronfa genedlaethol.
Cafodd cais rownd gyntaf Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Brymbo am gyllid i symud ei brosiect enfawr ymlaen, gan wneud defnydd o nodweddion hanesyddol anhygoel Brymbo i adfywio, ei gymeradwyo gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn gynharach y mis hwn.
Rydym wedi sôn am yr Ymddiriedolaeth Dreftadaeth yn y blog o’r blaen – gan gynnwys cefnogaeth a roddwyd iddo yn ddiweddar gan Gyngor Wrecsam trwy gyfrwng benthyciad o £170,000.
Nod yr Ymddiriedolaeth yw creu atyniad i ymwelwyr, canolfan addysg a lleoliad llawn bwrlwm o’r enw Ardal Dreftadaeth Brymbo trwy adfer adeiladau diwydiannol sy’n weddill a chloddio’r Goedwig Ffosiliau gerllaw ym Mrymbo.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Bu Bwrdd Ymddiriedolwyr Cronfa Dreftadaeth Y Loteri yn ystyried cais yr Ymddiriedolaeth y mis ddiwethaf gan ddewis ei gefnogi er gwaethaf cystadleuaeth frwd o bob cwr o’r DU.
Bydd y dyfarniad hwn yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i ddod ag amrywiaeth lawn o weithwyr proffesiynol dylunio, peirianneg a chyfreithiol sydd eu hangen i roi cynigion costau llawn at ei gilydd, cyn yr ail gyfnod ymgeisio ar ddiwedd 2019.
Os bydd y cais hwnnw yn llwyddiannus bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2020 a bydd y cyfleusterau yn agor flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i sefydlu gan aelodau o Grŵp Treftadaeth Brymbo i symud y prosiect ymlaen, ac enillodd statws elusennol ym mis Awst eleni. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ennill bron i £2m gan gangen arall o’r Loteri Genedlaethol – Y Loteri Fawr – i ddatblygu cyfres o dirweddau cyn-ddiwydiannol ym Mrymbo a’r cyffiniau, ac mae newydd gyflwyno cais am £1.1m i ddatblygu’r gwaith o ailwampio adeilad y Siop Peiriannau Gwaith Dur y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hwn yn newyddion ardderchog a hoffwn longyfarch Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo am gyflawni hyn.
“Ni ellir gorbrisio pwysigrwydd asedau hanesyddol ac archeolegol Brymbo. Mae’r goedwig ffosiliau o bwys byd-eang, heb sôn am arwyddion amlwg treftadaeth ddiwydiannol yr ardal, gan gynnwys Gwaith Dur Brymbo.
“Mae’r cyfleoedd sy’n codi o adfywio trwy dreftadaeth yn addawol iawn, ac rwy’n gobeithio fod hyn yn nodi dechrau cyfnod llwyddiannus iawn a phrosiect boddhaol i ardal Brymbo.”
Meddai’r Cynghorydd Paul Rogers, aelod arweiniol ar gyfer Brymbo: “Mae hwn yn newyddion gwych – mae pawb yn y Prosiect Treftadaeth wedi rhoi oriau o waith caled dros y blynyddoedd diwethaf.
“Nid yw’n rhywbeth sydd wedi dechrau’n ddiweddar ac aeth llawer o waith i mewn i baratoi’r cais hwn i sicrhau ei lwyddiant – ac mae pawb yn y prosiect yn haeddu cael eu llongyfarch am eu hymdrechion.
“Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn o fudd enfawr i Frymbo.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI