Yn dilyn yr ymateb rhyfeddol gan wirfoddolwyr COVID-19, mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn sefydlu Tîm Ymateb Cymunedol Wrecsam.
Mae CMGW wedi bod yn llwyddiannus wrth gael arian gan Llywodraeth Cymru i ddatblygu Tîm Ymateb Cymunedol Wrecsam. Mae’r fenter hon yn barhad o’r gwaith a wnaed yn ystod y pandemig COVID-19. Bydd y tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda gwasanaethau ymateb i argyfwng rhanbarthol a chysylltiadau cymunedol lleol i ymateb i argyfyngau lleol megis llifogydd, chwilio am unigolyn coll neu sefyllfaoedd tywydd eithriadol a byddant yn gallu cynnig gwirfoddolwyr ar gyfer y gefnogaeth gywir i’r Gwasanaethau Brys a Chyhoeddus.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Mae Canolfan Wirfoddoli Wrecsam yn edrych am fanc o wirfoddolwyr o ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd gwirfoddolwyr yn gallu datblygu ‘pasbort’ Gwirfoddoli ar gyfer yr ardal a fydd yn cynnwys tystysgrif DBS cyfredol a mynediad at amrywiaeth eang o hyfforddiant a chymwysterau, i gyd am ddim. Bydd cyfle hefyd i ddilyn hyfforddiant pellach ar gyfer cymwysterau mwy penodol.
Yn ogystal â hyfforddiant a phrofiadau gwirfoddoli parhaus i baratoi ar gyfer amgylchiadau argyfyngus bydd aelodau’r tîm yn cael cynnig y cyfle i wirfoddoli mewn digwyddiadau cymunedol, megis rhai codi arian neu ddigwyddiadau chwaraeon, cefnogi sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol o fewn yr ardal.
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Ledled Wrecsam mae CMGW a’i gwirfoddolwyr wedi dangos cefnogaeth ddiflino i gymunedau trwy wneud gwahaniaeth mawr i’r rhai yn ein mysg sy’n agored i niwed, angen cyflenwadau hanfodol neu gymorth ac ni ellir tanbrisio eu cyfraniad trwy gydol y pandemig.
“Mae eu hymrwymiad parhaus i Wrecsam yn awr yn cael ei weld yn y fenter hon a dymunaf bob llwyddiant iddynt.”
Mae CMGW yn datblygu’r Tîm Ymateb Cymunedol Wrecsam ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cynghorau cymunedol lleol, asiantiaid cymunedol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Arweinir y cyfle gan Ganolfan Wirfoddoli CMGW.
I wneud cais am y cyfle dilynwch y ddolen i gofrestru fel gwirfoddolwr ar wefan Gwirfoddoli Cymru yn https://wrexham.volunteering-wales.net/vk/volunteers/index-covid.htm?lang=CY a chofrestrwch am y cyfle i ddod yn rhan o Dîm Ymateb Cymunedol Wrecsam yn: http://bit.ly/AvowCRTVW.
Gall sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol hefyd elwa o’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru. Gall unrhyw wirfoddolwyr gael y Pasbort Gwirfoddoli a chael DBS cyfredol (yn dibynnu ar y swyddogaeth) a chael y cyfleoedd hyfforddiant hyn.
Mae hyfforddiant ychwanegol ar gael hefyd megis Llywodraethu Da, Sut i Ddod o hyd i Ymddiriedolwr a Gofalu am eich Asedau. Mae mwy o wybodaeth am yr hyfforddiant hwn ar gael yn https://wrexham-volorgs-training.eventbrite.co.uk.
I gael mwy o wybodaeth am y fenter ac os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â Chanolfan Wirfoddoli Wrecsam ar e-bost Volunteer.centre@avow.org
CANFOD Y FFEITHIAU