Rydym wedi llunio Arolwg Gwastraff Bwyd newydd sbon i breswylwyr ei gwblhau, ac rydym yn gofyn i chi gymryd rhan er mwyn ein helpu i wella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn Wrecsam.
Rydym yn falch o lansio ein Harolwg Gwastraff Bwyd yn ystod Wythnos Ailgylchu 2021 (Medi 20-26). Dim ond arolwg byr yw hwn ac ni ddylai gymryd mwy na phum munud i’w gwblhau, felly cymerwch ran os fedrwch chi.
Os nad ydych chi’n ailgylchu eich holl wastraff bwyd, peidiwch â bod ofn dweud hynny – nid prawf yw hwn! Rydym yn gwybod fod yno gryn dipyn o wastraff bwyd yn mynd i finiau gwastraff cyffredinol o hyd, ac am geisio canfod y gwahanol resymau dros hynny.
Dyma gyfle da ichi gael dweud eich dweud, felly cymerwch ran a lleisiwch eich barn. Bydd yr arolwg yn para tan 1 Tachwedd.
“Mae arnom eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosib”
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn annog pawb i gwblhau ein Harolwg Gwastraff Bwyd newydd. P’un a ydych chi’n ailgylchu’ch holl wastraff bwyd neu ddim o gwbl, mae arnom eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosib. Nid prawf yw hwn, felly peidiwch â bod ofn bod yn onest gyda’r wybodaeth a rowch chi. Nid ydym ond yn ceisio dysgu mwy am y rhesymau pam fod pobl yn ailgylchu bwyd dros ben neu beidio.
“Mae’r arolwg yn para tan 1 Tachwedd a dim ond yn cymryd ychydig funudau i’w gwblhau, felly cymerwch ran os fedrwch chi. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a rowch chi i ddatblygu’r gwasanaeth yn Wrecsam, felly mae’n werth ichi rannu eich barn gyda ni. Diolch.”
CYMERWCH RAN YN YR AROLWG GWASTRAFF BWYD
Cymerwch ran yn y canolfannau ailgylchu!
Ydych chi’n bwriadu mynd i un o’r canolfannau ailgylchu yn Wrecsam yn y wythnosau nesaf? Os felly, bydd rhywun yn gofyn ichi ateb ychydig o gwestiynau pan gyrhaeddwch chi ynglŷn â gwastraff bwyd.
Does dim rhaid ichi gymryd rhan felly mae croeso ichi wrthod yn gwrtais. Ond os ydych chi’n fodlon ateb y cwestiynau pan ddewch chi i’r safle fe fyddem yn ddiolchgar dros ben..
Am beth rydym ni’n chwilio…
I roi syniad ichi o gynnwys yr arolwg, dyma rai o’r pethau’r ydym yn gobeithio cael gwybod amdanynt:
- Eich arferion ailgylchu gwastraff bwyd
- Rhesymau pam fod bwyd yn mynd yn wastraff
- Beth sy’n ysgogi pobl i ailgylchu gwastraff bwyd
- Barn pobl ynglŷn â’n gwasanaethau – beth rydyn ni’n ei wneud yn dda a phethau y gallem eu gwella
- Syniadau am fannau casglu lle gall pobl ddod i nôl y sachau newydd am ddim i’r bocsys gwastraff bwyd
Efallai y cewch chithau syniadau da o’r wybodaeth yn y cwestiynau. Er enghraifft, ydych chi erioed wedi ystyried gwneud cynllun o’ch prydau bwyd am yr wythnos er mwyn osgoi prynu gormod o fwyd a’i wastraffu? Neu ydych chi wedi meddwl am sut rydych chi’n storio’ch bwyd? Mae yno lawer o bethau eraill a fedrai helpu i leihau faint o fwyd sy’n mynd yn wastraff ar eich aelwyd chi.
CYMERWCH RAN YN EIN HAROLWG
Gwybodaeth gyffredinol
Bocs gwastraff bwyd wedi torri?
Gallwch wneud cais am un newydd yn rhad am ddim ar ein gwefan. Dim problem.
Dim digon o sachau i’r bocs gwastraff bwyd?
Oes arnoch chi angen mwy o sachau i’r bocs gwastraff bwyd? Gall unrhyw un sydd angen rholyn newydd glymu bag gwag i handlen eu bocs ar eu diwrnod casglu nesaf, a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd yn rhad ac am ddim.
Gallwch hefyd nôl sachau am ddim o’n canolfannau ailgylchu. Fe welwch rai mewn mannau cyhoeddus eraill cyn bo hir, gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau adnoddau a swyddfeydd tai.
Beth ellir ei ailgylchu?
Yn ogystal â phopeth y byddwch chi’n ei wybod eisoes, edrychwch ar y rhestr hon o rai o’r bwydydd na fyddwch chi wedi meddwl amdanynt o reidrwydd, fel:
- Bwyd sydd dros y dyddiad
- Esgyrn a charcasau
- Plisgyn wyau
- Croen banana (a philion eraill)
- Calonnau afalau
- Coffi mân
- Bwydydd amrwd
- Bwydydd sydd wedi llwydo
- Crafion platiau
- Prydau parod heb eu bwyta
- Bwyd brys (e.e. sglodion a phitsas)
- Pysgod cregyn
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i www.wrecsam.gov.uk/ailgylchu
Cam Ymhellach yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni! Bydd Wych. Ailgylcha.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN