Os ydych yn gollwng potel wag, pecyn neu fag plastig efallai nad yw’n teimlo’n arwyddocaol wrth edrych ar y darlun mawr – mae’n siŵr y byddwch wedi anghofio popeth amdano mewn eiliadau… efallai na fydd yno o gwbl pan ewch yn ôl i’r un lle yfory.
Efallai y bydd hynny oherwydd bod Samariad Trugarog wedi codi’r sbwriel a’i roi yn y bin sbwriel / ailgylchu, ond mae’n bosibl hefyd y bydd y sbwriel a dafloch wedi cychwyn ar siwrnai gwbl wahanol.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
I weld beth sy’n gallu digwydd i’r sbwriel yr ydym yn ei ollwng, gwyliwch fideo Jemima Glitter a thaith Bob y Botel.
“A hedgehog snuffled a cup with its snout,
Got it caught in its prickles and couldn’t get out,
Another discarded styrene cup,
Ended up as a shoe for an otter pup”
Dyma gerdd tri munud a ysgrifennwyd gan Steve Backshall i Cadw Prydain yn Daclus, sy’n dangos sut y gall sbwriel mewn gwirionedd gael effaith arwyddocaol ar ein bywyd gwyllt a’n moroedd mewn gwahanol ffyrdd.
Mae’n bwysig ailgylchu
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae pob darn o sbwriel sy’n cael ei ollwng – yn enwedig sbwriel plastig – yn arwyddocaol fel y dangosir yn fideo Cadw Prydain yn Daclus.
“Y ffordd orau o sicrhau nad yw plastig yn niweidio ein bywyd gwyllt a dinistrio ein moroedd yw, yn gyntaf ceisio osgoi defnyddio plastig cymaint ag y gallwch, ond hefyd gofalu eich bod yn ailgylchu’r plastig a ddefnyddiwch cymaint ag y gallwch.
“Cofiwch y gallwch yn Wrecsam ailgylchu unrhyw fath o boteli plastig, pob carton bwyd plastig, potiau plastig a thybiau plastig… mae’n bwysig iawn ailgylchu. Gall pawb chwarae eu rhan er mwyn amddiffyn yr amgylchedd.”
Ffeithiau am ailgylchu: Mae golchi eich potiau, tybiau, três a photeli plastig cyn iddynt gael eu casglu yn golygu fod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer uwch yn cael ei anfon i'w ailgylchu i greu cynhyrchion newydd. pic.twitter.com/oAFmysINcp
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 3, 2019
Gwagle gwych!
Gallwch ganfod pam bod cael gwagle yn eich bin du yn beth da trwy gwblhau’r cwis hwyliog hwn 🙂
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU