Noson o ganu
Mae Maer Wrecsam, y Cynghorydd Tina Mannering, yn trefnu cyngerdd elusennol fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 15 Tachwedd, 2025 yn Eglwys San Silyn.
Bydd Côr Meibion Cantorion Gogledd Cymru, sy’n dod â chantorion o bob rhan o Ogledd Cymru at ei gilydd, yn perfformio. Bydd y perfformiad yn cynnwys cymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg.
Dywedodd y Maer: “Rwy’n croesawu pawb i ymuno â ni; dewch â’ch teulu, ffrindiau neu gymdogion i fwynhau’r hyn sy’n addo bod yn noson wych gyda’r cantorion talentog hyn.”
Tocynnau elusennol
Bydd yr holl elw o docynnau’r cyngerdd yn mynd i elusen enwebedig y Maer eleni – Dynamic; i godi arian ar gyfer eu bws mini.
Mae Dynamic yn elusen yn Wrecsam, sy’n darparu canolfan i blant a phobl ifanc ag anableddau yn yr ardal.
Ar y noson
Bydd y drysau’n agor am 7pm i ddechrau am 7.30pm. Bydd bar llawn ar gael hefyd.
Yn gynharach ar y noson, mae disgwyl i olau Nadolig Wrecsam gael eu troi ymlaen hefyd yng nghanol y ddinas – felly gallwch wneud noson lawn ohoni drwy fynd yno ymlaen llaw!
Sut alla i gael tocynnau ar gyfer y cyngerdd?
Mae tocyn i oedolyn yn costio £15, ac mae tocynnau plant yn £5.
Gallwch eu cael ar-lein yma:
Felly, archebwch eich tocynnau a gallwch edrych ymlaen at noson yn llawn canu trawiadol, i gyd at achos teilwng.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Mae siop gelf ‘gyntaf o’i fath’ yn Tŷ Pawb yn ehangu!