Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Da ar Sut i Fwynhau Noson Allan yn Wrecsam y Nadolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 8.1.26
Arall Y cyngor
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham's Year of Wonder
Digwyddiad lansio Blwyddyn o Ryfeddod Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 8-9 Ionawr
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyngor Da ar Sut i Fwynhau Noson Allan yn Wrecsam y Nadolig hwn
Pobl a lleY cyngor

Cyngor Da ar Sut i Fwynhau Noson Allan yn Wrecsam y Nadolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: 2017/12/01 at 2:26 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Cyngor Da ar Sut i Fwynhau Noson Allan yn Wrecsam y Nadolig hwn
RHANNU
Yfed Llai Mwynhau MwyMae’r erthygl hon yn un o gyfres o bostiadau am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy

Os ydych chi am fentro allan yn Wrecsam dros gyfnod yr ŵyl, rydyn ni am sicrhau’ch bod yn cael noson sy’n gofiadwy – am y rhesymau cywir. Dyma ein cynghorion i’ch helpu i sicrhau bod eich noson allan yn ddiogel a phleserus.

Cynnwys
Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o bostiadau am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwyCyngor 1: Peidiwch â dechrau yfed gartref Cyngor 2: Chwiliwch am yr arwydd Best Bar None Cyngor 3: Bwytewch cyn yfed Cyngor 4: Meddyliwch am eich iechydCyngor 5: Arhoswch gyda’ch ffrindiauCyngor 6: Peidiwch â gadael eich diodydd heb neb i gadw golwg arnynt  Cyngor 7: Mae help wrth law os bydd ei angenCyngor 8: Cynlluniwch eich siwrnai adref Cyngor 9: Wedi’ch noson allan… Rhagor o wybodaeth

Cyngor 1: Peidiwch â dechrau yfed gartref

Byddai rhywun yn gallu meddwl ei bod yn syniad da cael diod neu ddwy gartref cyn mynd allan.  Gallech gredu ei bod yn ffordd o arbed arian ac o ymlacio, ond byddai yfed gormod gartref cyn mynd allan yn gallu ei gwneud yn noson fyr yn y pen draw. Mae pobl sy’n yfed gartref cyn mynd allan yn tueddu i anghofio faint maen nhw wedi’i yfed a mynd yn fwy meddw nag roedden nhw wedi bwriadu. Yn aml bydd hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol i chi:

  • Fod yn sâl o ganlyniad i yfed gormod o alcohol, yn cynnwys chwydu, fel y gallech orffen y noson mewn ffordd annymunol
  • Cael eich tynnu i mewn i ymladd
  • Cael eich anafu ar ôl syrthio
  • Bod yn agored i niwed

Cyngor 2: Chwiliwch am yr arwydd Best Bar None 

Cyngor Da ar Sut i Fwynhau Noson Allan yn Wrecsam y Nadolig hwn

Pan fyddwch chi’n cerdded i mewn i adeilad trwyddedig ac yn gweld yr arwydd hwn, mae’n golygu’ch bod chi ar safle sydd wedi’i achredu gan Best Bar None (BBN) Wrecsam. Mae pob safle BBN wedi cael ei asesu i ddangos ei fod wedi ymrwymo i’ch cadw’n ddiogel ar eich noson allan.

Cyngor 3: Bwytewch cyn yfed

Gofalwch eich bod yn bwyta cyn mynd allan. Mae bwyd yn sugno alcohol, gan ei arafu cyn iddo fynd i mewn i’r llif gwaed. Bydd yn rhoi mwy o egni i chi ac yn lleihau’r effeithiau y diwrnod wedyn. Ceisiwch adael amser rhwng eich diodydd ac yfed diodydd meddal neu ddŵr rhwng diodydd alcoholaidd.  Mae hyn yn gallu arafu’ch yfed.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Cyngor 4: Meddyliwch am eich iechyd

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli mai gwenwyn yw alcohol a bod yfed gormod ohono’n gallu cael effaith ddifrifol ar eich iechyd o fewn dim.

Cyngor 5: Arhoswch gyda’ch ffrindiau

Mae ffrindiau’n gofalu am ei gilydd. Sicrhewch nad ydych chi’n cael eich gwahanu. Os ydych chi’n cymdeithasu â grŵp o bobl, cadwch lygad ar eich gilydd a gofalu bod pawb yn aros yn ddiogel.

 

https://www.youtube.com/watch?v=l1dVqH7B4xQ

 

Cyngor 6: Peidiwch â gadael eich diodydd heb neb i gadw golwg arnynt  

Peidiwch â gadael diodydd heb neb i gadw golwg arnynt gan fod hynny’n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd rhywun yn ychwanegu alcohol neu gyffur atyn nhw. Mae hyn yn gallu digwydd i ddynion a menywod. Bydd troseddwyr yn gwneud hyn er mwyn troseddu yn eich erbyn drwy ddwyn, lladrata neu ymosod yn rhywiol, er enghraifft. Mae hyn yn rheswm i chi wrthod cymryd diod gan ddieithriaid hefyd. Os oes rhaid i chi adael eich diod am ryw reswm, gofynnwch i’ch ffrindiau gadw golwg arni.

Cyngor 7: Mae help wrth law os bydd ei angen

Os ydych chi’n teimlo ychydig yn rhy feddw, gwyliwch am y bugeiliaid stryd sy’n rhoi cymorth tosturiol yng nghanol y dref ac sy’n gallu’ch helpu. Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu ac yn gallu darparu dŵr a help ymarferol i chi os oes angen.

Gallwch hefyd fynd i’r Ganolfan Les yn Hafod y Wern. Mae’r ganolfan yn cael ei hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru a’r Bwrdd Iechyd. Gweithwyr y Groes Goch Brydeinig sy’n rhedeg y ganolfan ac mae’n cynnig cymorth meddygol, lle i wella a gofal bugeiliol os ydych wedi cael gormod i’w yfed, wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon, neu’n teimlo’n agored i niwed.

Cyngor 8: Cynlluniwch eich siwrnai adref

Cyn mynd i mewn i unrhyw dacsi, sicrhewch ei fod wedi cael ei drwyddedu’n briodol. Mae’n ofynnol bod platiau trwydded gwyn a phorffor ar du allan pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacnai .

Hefyd mae arwyddion melyn wedi’u glynu ar ffenestri cefn cerbydau hurio preifat.

Mae’n ofynnol bod pob gyrrwr yn gwisgo bathodyn adnabod sy’n dangos ei enw, ei lun, rhif ei drwydded a’r dyddiad y mae’n dod i ben.  Os na allwch weld y bathodyn, gofynnwch am ei weld cyn cychwyn.

Cyngor 9: Wedi’ch noson allan…

Yfwch beint o ddŵr cyn mynd i’r gwely i atal eich corff/croen rhag sychu ac ewch am ddiwrnod neu ddau heb yfed er mwyn i’ch corff ddod ato’i hun ar ôl sesiwn o yfed trwm.

Rhagor o wybodaeth

Os ydych chi am gael mwy o wybodaeth am y niwed posibl o yfed, gallwch ymweld â’r gwefannau hyn:

http://www.nhs.uk/Livewell/alcohol/Pages/Alcoholhome.aspx

https://www.drinkaware.co.uk/

http://www.nhs.uk/Livewell/abuse/Pages/drink-spiking.aspx#

Os ydych chi’n pryderu am eich yfed, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru DAN 24/7 ar Radffon 0808 808 2234 neu yn  www.dan247.org.uk

Mae rhagor o wybodaeth am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy ar gael yma

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/english/env_services/recycling_waste/calendar.htm”]GET BIN REMINDERS[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Private Hire Bwriadu cael tacsi adref ar ôl eich parti Nadolig? Dylech chi ddarllen hwn
Erthygl nesaf 60+ Diolch i chi am gymryd rhan

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 8.1.26
Arall Y cyngor Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 8.1.26

Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes

Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Pobl a lleY cyngor

Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr

Ionawr 8, 2026
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam

Ionawr 8, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English