Mae dyn a adawodd garafán sefydlog wedi’i pharcio yn anghyfreithlon ar ei dir wedi cael ei erlyn gan Gyngor Wrecsam.
Cafodd Paul Trevor Martin ddirwy o £1,298 yn Llys Ynadon Wrecsam am adael y garafán ar dir yn Fenns Moss gan dorri Rhybudd Gorfodi Cynllunio yn gofyn iddo ei symud.
Cafodd ei rybuddio y gallai wynebu erlyniad pellach os yw’n awr yn methu â symud y garafán yn brydlon.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r erlyniad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd dilyn rheolau cynllunio, sydd ar waith i helpu i warchod yr amgylchedd a chymunedau lleol.
“Mae ein tîm cynllunio bob amser yn awyddus i weithio’n gadarnhaol gydag unigolion a darparu cymorth i sicrhau bod y rheoliadau yn cael eu dilyn.
“Fodd bynnag, rydym yn cymryd torri amodau o ddifrif ac ni fydd swyddogion yn oedi cyn cymryd camau gorfodi – gan gynnwys erlyn – pan fo’n briodol gwneud hynny.”