Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae dros £600k wedi cael ei fuddsoddi yn Rhiwabon, gennym ni a gan y Consortia Cludiant Rhanbarthol, i ddatblygu Gorsaf Rhiwabon yn ganolfan drafnidiaeth, gan ddarparu maes parcio, cyfnewidfa bysiau a threnau, gwelliannau i fannau aros, mynedfa newydd i’r orsaf a TCC.
Ond mae angen mwy o gyllid i wella mynediad heb risiau yn Rhiwabon, gan fod y platfform tua’r gogledd ar hyn o bryd wedi’i gysylltu â’r platfform tua’r de gyferbyn gyda phont droed, heb ffordd arall o fynd o un i’r llall.
Golyga hyn na all teithwyr trenau sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd ddefnyddio’r rhwydwaith tua’r gogledd os ydynt yn gadael Gorsaf Rhiwabon, ac na allant ddod oddi ar y trên yn Rhiwabon os ydynt yn dod yn ôl ar wasanaeth tua’r de.
Yn ogystal â defnyddwyr cadeiriau olwyn, mae’r broblem hon hefyd yn effeithio teithwyr gyda phlant neu fabanod mewn coets, neu bobl gyda phroblemau symudedd sy’n teithio gyda bagiau.
Mae’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, CLlLC a’r Adran Drafnidiaeth yn amlinellu ein dyheadau i ddatblygu’r orsaf yn gyswllt twristiaeth allweddol yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys gwella problemau mynediad.
“Bydd mynediad yn dod yn fwyfwy pwysig”
Dywedodd y Cynghorydd Bithell: “Rydym wedi bod yn ceisio helpu datrys problem mynediad heb risiau mewn gorsafoedd yn y fwrdeistref sirol ers peth amser, a bu i aelodau’r Bwrdd Gweithredol gytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y rhwydwaith drenau yn y fwrdeistref sirol pan amlinellwyd mynediad heb risiau yn Rhiwabon fel un o’n uchelgeisiau yn ein hadroddiad Dyfodol Rheilffyrdd yn Wrecsam, a gyhoeddwyd ddechrau 2015.
“Gwyddom y bydd problemau mynediad yn ein gorsafoedd rheilffordd yn dod yn fwyfwy pwysig gyda rhyddfraint newydd wedi’i sefydlu ar gyfer Cymru a’r Gororau, a’r cynnydd tebygol yn y teithwyr fydd yn defnyddio rheilffyrdd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.
“Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth am fwy o gyllid a chymorth i wella ein Rhwydwaith. Ni ddylai unigolion â phroblemau symudedd orfod teithio’n hirach na gwneud teithiau diangen os ydyn nhw eisiau defnyddio’r trenau.”
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I