Y diweddaraf am gyllideb Cyngor Wrecsam
Bydd Cynghorwyr Wrecsam yn cwrdd yr wythnos nesaf i drafod y cynigion diweddaraf ar gyfer mynd i’r afael â gwasgfeydd ar y gyllideb – ac mae’r Cyngor am wneud penderfyniadau’n gynnar gan fod y sefyllfa mor ddifrifol.
Ddechrau’r haf eleni fe gyhoeddodd Cyngor Wrecsam y gallai wynebu diffyg o £23 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol pa na fyddai’n gweithredu, gan ragweld y byddai diffyg o £20 miliwn eto’r flwyddyn nesaf.
Ar ben hynny, mae’r Cyngor eisoes wedi gorfod torri mwy na £60 miliwn rhwng 2016 a 2020 wrth i’w gyllid leihau mewn termau real.
Ar y cyfan, mae hyn yn ostyngiad o £103 miliwn – sy’n arwydd o’r wasga aruthrol ar gyllidebau cynghorau.
Bu Cynghorwyr a swyddogion yn gweithio’n ddiwyd wrth ddod o hyd i arbedion a ffyrdd o weithio’n fwy effeithlon, a chyflwynwyd nifer helaeth o gynlluniau arbed costau’n barod yn y misoedd diwethaf.
Mae’r Cyngor eisoes wedi clustnodi arbedion gwerth miliynau o bunnau yn y flwyddyn gyfredol a’r wythnos nesaf (dydd Mawrth 12 Rhagfyr) bydd aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn cwrdd i drafod ychwaneg o gynigion ar gyfer pontio’r diffyg a ddisgwylir yn 2024-25.
- Bydd y pynciau dan sylw’n cynnwys:
- Defnyddio llai o lety dros dro i fodloni anghenion tai drwy ddefnyddio hanner cant o unedau’r Cyfrif Refeniw Tai.
- Adolygu asedau (tir ac adeiladau) y mae’r Cyngor yn berchen arnynt.
- Dileu swyddi gwag gydol y Cyngor.
- Dod â Gwasanaeth Warden Canol y Ddinas i ben.
- Sefydlu Bwrdd Rhaglen Newid ac Effeithlonrwydd i ganfod unrhyw ddulliau radical eraill o ymdrin â chyllideb 2024-25.
Gŵyr pawb fod cynghorau ledled Cymru’n teimlo’r esgid yn gwasgu oherwydd chwyddiant uchel, setliadau cyflog, galw ar wasanaethau, costau ynni, costau defnyddiau a gwasgfeydd eraill.
Mae’r dadansoddiad ariannol yn awgrymu y gallai fod angen cynyddu Treth y Cyngor o leiaf 12.5% y flwyddyn nesaf dim ond i ‘aros yn yr unfan’, ar sail y rhagolygon presennol.
Mae pob 1% yn ychwanegol yn codi £600,000 – sy’n helpu i ddiogelu gofal cymdeithasol, tai a gwasanaethau hanfodol eraill.
Bydd y gwaith dadansoddi’n parhau nes penderfynir ynghylch lefel Treth y Cyngor, sy’n debygol o ddigwydd ym mis Chwefror.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r sefyllfa ariannol yn eithriadol o anodd, ac ni all yr un cyngor fforddio gwneud dim.
“Rydyn ni eisoes wedi llwyddo i ddod o hyd i lawer o arbedion a ffyrdd o weithio’n fwy effeithlon yng Nghyngor Wrecsam ac rydyn ni’n gweithio’n ddi-baid i ddiogelu ein staff a’n cwsmeriaid.
“Serch hynny, dyma’r her ariannol fwyaf erioed inni ei hwynebu ac oni bai fod cynghorau’n cael mwy o arian, y gwirionedd trist amdani yw y bydd yn rhaid cwtogi ar swyddi a gwasanaethau i’r cyhoedd.”
Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cwrdd ar dydd Mawrth 12 Rhagfyr.
Bydd cynghorwyr hefyd yn trafod adroddiad ar wahân ynglŷn â chynigion i newid y tâl a godir am barcio ym meysydd parcio’r Cyngor.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.