Yr wythnos diwethaf, datgelwyd cynlluniau ynglŷn â chymorth Costau Byw ym Mwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam.
Roedd y cynlluniau’n cynnwys defnyddio grantiau drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fydd yn caniatáu i Gyngor Wrecsam gyfrannu £60,000 yn uniongyrchol i Fanc Bwyd Wrecsam eleni a £60,000 y flwyddyn nesaf.
Bydd y cyllid yn cael ei roi i’r banc bwyd yn uniongyrchol, sy’n darparu bwyd a chynhyrchion ymolchi i’r rhai mewn angen.
Eleni, bydd Cyngor Wrecsam yn dyrannu £40,000 o gyllid partneriaeth bwyd lleol, a fydd hefyd yn cefnogi Rhaglen Grantiau Bach Partneriaeth Bwyd Wrecsam cyn y Nadolig. Mae’r un cyfraniad wedi’i gynllunio ar gyfer 2026/27.
Bydd y gwaith hwn yn cael ei reoli gan Swyddog Datblygu Bwyd Cyngor Wrecsam a ariennir yn allanol.
Mae Cyngor Wrecsam wedi sefydlu Gweithgor Costau Byw sy’n grŵp trawsbleidiol o aelodau a swyddogion sy’n cyfarfod yn rheolaidd i archwilio a datblygu atebion i gefnogi trigolion sy’n wynebu pwysau ariannol.
Mae gwaith i ddatblygu atebion a chefnogi pobl mewn angen yn bodoli ar draws y Cyngor eisoes.
Er enghraifft, ym maes Tai, mae gan bob Swyddfa Ystadau Swyddog Cynhwysiant Ariannol sy’n cefnogi preswylwyr tai cymdeithasol i sicrhau’r incwm mwyaf a rheoli taliadau rhent yn rhwydd.


