Yn ei gyfarfod Bwrdd Gweithredol nesaf, gofynnir i aelodau gymeradwyo’r sgôp a chylch gorchwyl ar gyfer adolygu Perfformiad Cynllunio.
Os bydd yn cael ei gymeradwyo bydd yr adolygiad yn edrych ar dair elfen:
- Y Pwyllgor Cynllunio
- Gwasanaeth Cynllunio
- Gwersi a ddysgwyd o’r broses Cynllun Datblygu Lleol.
Mae’r cynigion mewn ymateb i bryderon a godwyd dros y misoedd diwethaf gan aelodau etholedig a rhai preswylwyr lleol mewn perthynas â’r Pwyllgor Cynllunio a’r Gwasanaeth Cynllunio.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae’r cynigion mewn ymateb i bryderon a godwyd dros y misoedd diwethaf gan aelodau etholedig a rhai preswylwyr lleol mewn perthynas â’r Pwyllgor Cynllunio a’r Gwasanaeth Cynllunio.
Bydd yr adolygiad yn cael ei oruchwylio gan y Prif Weithredwr a bydd yn galluogi swyddogion, Aelodau a rhanddeiliaid priodol eraill i gyflwyno eu barn a’u hawgrymiadau ar gyfer gwelliant ynghyd â chyflawni mewnbwn allanol, cymhariaeth a dilysu.
I ddarllen yr adroddiad yn llawn defnyddiwch y ddolen hon (dolen pan yn fyw)
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 8 Mehefin 2021 am 10am a gallwch wylio’r trafodion yn fyw ar ein gwefan.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF