Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun Braf Bob Nos yn cael ei lansio yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cynllun Braf Bob Nos yn cael ei lansio yn Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Braf Bob Nos yn cael ei lansio yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2019/05/28 at 2:51 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Cynllun Braf Bob Nos yn cael ei lansio yn Wrecsam
RHANNU

Cynhaliwyd lansiad swyddogol y cynllun Braf Bob Nos 2019 yn Wrecsam ddoe yng nghyfarfod Diogelwch Min Nos canol y dref.

Mae Diogelwch Min Nos yn bartneriaeth rhwng trwyddedai, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam yn hybu diogelwch yn yr amgylchedd min nos.

Mae Braf Bob Nos Wrecsam yn rhan o Gynllun Braf Bob Nos gwirfoddol cenedlaethol ar gyfer lleoliadau min nos, a ddyluniwyd i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel tra’n cydnabod y rhagoriaeth yn eu diwydiant drwy archwilio dros 120 maen prawf sy’n cynnwys popeth o reolaeth gyfrifol a diogel i ofal cwsmer.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Dywedodd y Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod Y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae cymryd rhan yn y Cynllun Braf Bob Nos yn wirfoddol ac angen llawer o ymrwymiad a gwaith caled gan bob un o’r cyfranogwyr.

Dylid canmol pob tafarn, clwb a bwyty sy’n rhan o’r cynllun am y gwaith a wneir ganddynt i wneud Wrecsam yn lle diogel.”

Mae Braf Bob Nos yn gynllun achredu cenedlaethol a gefnogir gan y Swyddfa Gartref a’r diwydiant diodydd a anelir yn bennaf at hybu rheolaeth a gweithrediad cyfrifol eiddo gyda thrwydded alcohol. Mae 75 tref a dinas ar draws y DU wedi’i fabwysiadu erbyn hyn.

Dywedodd Alison Watkin, Swyddog Diogelwch Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau ar gyfer Gwobrau Braf Bob Nos Wrecsam 2019 ac yn annog eiddo trwyddedig i gymryd rhan, waeth pa mor fach neu fawr ydynt – mae yna groeso i bawb a chefnogir drwy gydol y broses.  Rydym eisiau i bartneriaid yn yr amgylchedd min nos weithio gyda’i gilydd i ddangos bod Wrecsam yn cynnig noson allan ddiogel a llawn hwyl.”

Derbyniodd cynllun Braf Bob Nos Wrecsam wobr ym mis Chwefror eleni yn y Gwobrau Braf Bob Nos Cenedlaethol 2018 a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Bydd tafarndai,clybiau, bwytai a bariau yn Wrecsam yn mynd drwy gyfnod asesu lle byddant yn cael eu beirniadu yn erbyn meini prawf ac yna’n derbyn awgrymiadau ar sut i wella neu’n derbyn yr achrediad.

Anogir trwyddedai sy’n cymryd rhan i ymddwyn yn gyfrifol ac ymfalchïo yn eu heiddo a’r ardal o’u cwmpas. Mae’r cynllun yn diweddu bob blwyddyn gyda seremoni wobrwyo, sy’n dathlu cyflawniad pob eiddo.

Mae’r cynllun yn agored i bob eiddo, roedd 13 lleoliad canol tref wedi cymryd rhan y llynedd.

Mae pob eiddo sy’n rhan o’r Cynllun Gwobrau Braf Bob Nos yn cael ei archwilio gan aseswyr hyfforddedig ac os bydd yn llwyddiannus, yn aelod achrededig o’r cynllun gan gyflawni gwobr Aur, Arian neu Efydd. Yna mae’r eiddo gorau yn mynd gerbron panel o feirniaid annibynnol, sy’n dewis yr enillwyr ym mhob categori.

Dywedodd Ann Williams, Swyddog Trwyddedu’r Dwyrain, Heddlu Gogledd Cymru, “mae Atal yn allweddol i greu economi min nos diogel ac mae Braf Bob Nos yn rhoi cyfle ardderchog i’r holl bartneriaid a lleoliadau i weithio gyda’i gilydd i gadw pobl yn ddiogel.    Mae Braf Bob Nos Wrecsam eisoes wedi’i gydnabod yn genedlaethol am y mentrau a’r hyfforddiant a ddarparwyd ar waith bregusrwydd fydd yn parhau, ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r busnesau y flwyddyn yma ar rai o’r meini prawf newydd yn canolbwyntio ar Gamau Ymwybyddiaeth o Derfysgaeth a Throsedd Cyllyll.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Diogelwch Cymunedol.

Dilynwch y Tîm Diogelwch Cymunedol ar y cyfryngau cymdeithasol:

@NWPComSafEast

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/life_events_w/caring/fostering/index.htm”] DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cylchfan Rhiwabon – ar gau dros nos am 5 noson Cylchfan Rhiwabon – ar gau dros nos am 5 noson
Erthygl nesaf Arddangosfa newydd 'uchelgeisiol' i agor yn Tŷ Pawb Arddangosfa newydd ‘uchelgeisiol’ i agor yn Tŷ Pawb

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Ionawr 30, 2026
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau Ionawr 30, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 29, 2026
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio

Ionawr 28, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English