Ydych chi erioed wedi ystyried sut rydym yn gosod ein cyllidebau ac yn penderfynu lle bydd yr arian yn mynd?
Cynllun y Cyngor yw’r ateb, sy’n nodi beth ddylem fod yn ei flaenoriaethu a sut i wneud gwelliannau – gan ystyried y setliadau cyllid cynyddol is rydym yn eu derbyn gan y llywodraeth ganolog.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Mae Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019 – 2022 wedi ei adolygu a bellach wedi ei gymeradwyo gan ein Bwrdd Gweithredol.
Mae’n cynnwys 6 blaenoriaeth ar gyfer y misoedd nesaf:
- Datblygu’r economi
- Sicrhau Cyngor modern a gwydn
- Sicrhau bod pawb yn ddiogel
- Gwella addysg uwchradd
- Gwella’r amgylchedd
- Hyrwyddo iechyd a lles da
“Sefydliad llai a gwahanol iawn”
O ystyried y toriadau ariannol y mae’r Cyngor yn dal i’w hwynebu nid oes unrhyw ddewis gennym ond parhau i wneud penderfyniadau radical am ystod a lefel y gwasanaethau a ddarparwn. Fel sefydliad byddwn yn llai ac yn sefydliad gwahanol iawn yn y dyfodol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ymdrechu i wella gwasanaethau penodol ond bydd rhai o’n gwasanaethau yn cael eu darparu ar lefel is, bydd rhai o bosib yn cael eu darparu gan bobl eraill a bydd rhai gwasanaethau yn dirwyn i ben.
Rydym yn adolygu’r Cynllun bob blwyddyn a llynedd dywedodd cynghorwyr eu bod am amcanion mwy eglur ar gyfer pob un o’n themâu. O ganlyniad, mae gennym 14 amcan sydd wedi eu diffinio’n glir gyda gweithgareddau eglur fydd yn brif ffocws i’r gwaith dros y 12 mis nesaf.
Mae’r Cynllun yn ddogfen fyw sy’n ddarostyngedig i adolygiadau rheolaidd drwy gydol ei hoes er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y cyd-destun lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Rhaid i’r cynllun hefyd ystyried adolygiadau’r holl gynlluniau a strategaethau ategol sy’n sail iddo, yn ogystal ag adolygiadau o Gynllun Lles Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor a gyflwynodd yr adroddiad: “Mae gennym oll flaenoriaethau. Does dim dianc rhag y ffaith na fyddwn yn plesio pawb dros y 12 mis nesaf. Ond mae’n rhaid i ni ystyried anghenion yr henoed, yr ifanc, a’r agored i niwed, dyfodol economi Wrecsam, a’n hamgylchedd. Rwy’n credu bod y Cynllun hwn yn adlewyrchiad cywir iawn o lle rydym ar hyn o bryd o ystyried y pwysau ariannol sydd arnom yn barhaol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddiweddaru’r cynllun hwn.”
Gallwch weld Cynllun y Cyngor ac adroddiad y Bwrdd Gweithredol yma
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU