Pythefnos gyntaf o weithgareddau AM DDIM ac am y 14 wythnos a ganlyn, byddwch yn gallu cymryd rhan am £3 y sesiwn . Yn dechrau ar Ebrill 2022 tan Mawrth 31, 2023.
Yn dilyn ymlaen o’n Cynllun Hamdden Egnïol y llynedd, rydym bellach yn cynnig cyfle i gyfranogwyr NEWYDD i ddod yn egnïol er mwyn helpu i hybu eu hiechyd meddwl a chorfforol.
Yn dilyn ymlaen o’n Cynllun Hamdden Egnïol y llynedd, rydym bellach yn cynnig cyfle i gyfranogwyr NEWYDD i ddod yn egnïol er mwyn helpu i hybu eu hiechyd meddwl a chorfforol.
Mae Tîm Wrecsam Egnïol Cyngor Wrecsam wedi cael grant gan Chwaraeon Cymru fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Pwysau Iach Cymru Iach. Bydd y sesiynau i rai 60 oed a hŷn yn galluogi pobl dros 60 oed yng Nghymru i fyw bywydau hirach, gwell a hapusach, gan wella eu lefelau gweithgarwch corfforol, eu hyder, eu cryfder a’u cyd-bwysedd.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Byddwn yn gweithio, ynghyd â Freedom Leisure a Chanolfan Hamdden Plas Madoc, ac rydym i gyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein poblogaeth hŷn yn Wrecsam yn cynnal ffordd iach o fyw. Mae gennym ddetholiad gwych o weithgareddau a sesiynau ar gael.
Bydd y bythefnos gyntaf o weithgareddau AM DDIM J ac am y 14 wythnos a ganlyn, byddwch yn gallu cymryd rhan am £3 y sesiwn J.
Dim ond y sesiynau isod sydd ar gael am y pris hwn – os dymunwch gymryd rhan mewn sesiynau neu weithgareddau eraill yn y Canolfannau Hamdden, holwch staff y dderbynfa am y gost.
Anfonwch neges e-bost atActive60@wrexham.gov.uk os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno yn y cynllun 60+ Egnïol. Byddwn yn anfon dolen gofrestru atoch wedyn.
Unwaith rydych chi wedi cofrestru, gallwch fynd i dderbynfa unrhyw Ganolfan Hamdden Freedom a restrir isod a byddant yn rhoi cerdyn aelodaeth i chi. Gallwch gymryd rhan ym mhob un o’r sesiynau isod ym mhob Canolfan Hamdden Freedom yn Wrecsam.
Bydd cyfranogwyr Plas Madoc angen ymweld â derbynfa Canolfan Hamdden Plas Madoc ar ôl cofrestru, ac yna byddwch yn gallu cymryd rhan yn y sesiynau isod ym Mhlas Madoc yn unig.
Mae gennym amrywiaeth o sesiynau i chi gymryd rhan ynddynt.
Does dim angen unrhyw brofiad ymarfer corff arnoch chi, bydd ein tîm yn eich arwain drwy’r sesiynau.
Dyma’r rhesymau pam y dylech chi fynychu ein sesiynau ymarfer corff i bobl hŷn:
- Rhoi hwb i’ch system imiwnedd
- Lleihau lefelau straen
- Cadw annibyniaeth
- Lleddfu poen
- Lleihau’r perygl o glefyd y galon a strôc
- Lleihau’r perygl o gael diabetes math 2, rhai mathau o gancr, iselder a dementia
- Lleihau’r perygl o syrthio
- Cwrdd â ffrindiau newydd!
Amserlenni 60+ y Canolfannau Hamdden
CANOLFAN HAMDDEN Y BYD DŴR – 01978 297300 | ||
Dydd Llun | Ymarfer Cylchol yn y Dŵr | 13.30-14.15 |
Dydd Mawrth | Omnia Move | 14.45-15.45 |
Dydd Mercher | Campfa | 14.30-15.30 |
Dydd Iau | Aerobeg Hawdd | 13.15-14.00 |
Dydd Iau | Aerobeg Hawdd | 14.15-15.00 |
Dydd Iau | Dosbarthiadau Sbin i Ddechreuwyr | 15.00-15.30 |
Dydd Gwener | Campfa | 12.30-13.30 |
Dydd Gwener | Tai Chi (symud er lles TMW) | 13.30-14.15 |
STADIWM QUEENSWAY – 01978 355826 | ||
Dydd Mawrth Dechrau ar 3 Mai | Sesiwn ar Feic Trydan ar y trac tu allan | 10.00-11.00 |
Dydd Mercher | Campfa | 14.00-15.00 |
Dydd Gwener | Campfa | 14.00-15.00 |
CANOLFAN HAMDDEN A GWEITHGAREDDAU GWYN EVANS – 01978 269540 | ||
Dydd Llun | Ymarfer Cylchol Easyline | 9.30-10.15 |
Dydd Llun | Ymarfer Cylchol Easyline | 10.15-11.00 |
Dydd Mawrth | Campfa | 10.00-11.00 |
Dydd Mawrth | Aerobeg Dŵr | 20.15-21.00 |
Dydd Mercher | Aerobeg Dŵr | 15.00-16.00 |
Dydd Mercher | Ymarfer Cylchol Easyline | 18.15-19.00 |
Dydd Iau | Campfa | 11.00-12.00 |
CANOLFAN HAMDDEN A GWEITHGAREDDAU’R WAUN – 01691 778666 | ||
Dydd Llun | Aerobeg Dŵr | 19.15-20.00 |
Dydd Mawrth | Ioga Egnïol (cynhelir yn Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhiwabon) | 20.00-21.00 |
Dydd Mercher | Pêl-droed Cerdded | 10.00-11.00 |
Dydd Mercher | Campfa | 11.00-12.00 |
Dydd Mercher | Ymarfer Cylchol yn y Dŵr | 13.45-14.30 |
Dydd Mercher | Zumba | 19.00-20.00 |
Dydd Gwener | Campfa | 11.00-12.00 |
CANOLFAN HAMDDEN PLAS MADOC – 01978 821600 | ||
Dydd Llun | Ymarfer Cylchol Easyline | 13.00-13.45 |
Dydd Mawrth | Campfa | 13.00-14.00 |
Dydd Mercher | Zumba Aur | 10.30-11.30 |
Dydd Iau | Ymarfer Cylchol Easyline | 13.30-14.15 |
Dydd Gwener | Campfa | 11.00-12.00 |
Dydd Gwener | Gwersi Nofio 60+ (Yn ystod Tymor Ysgol yn unig) | 13.30-14.15 |
Sesiwn Ar-lein ar Zoom i rai 60+: anfonwch neges e-bost at Active60@wrexham.gov.uk
Dydd Mercher | 1.00pm-1.40pm | Tai Chi (symud er lles TMW) |
Sylwch bod y cynnig hwn a’r cynllun talu i gael pythefnos AM DDIM ac 14 wythnos am £3 y sesiwn ar gael i gyfranogwyr NEWYDD yn unig. Os wnaethoch chi gymryd rhan yn ein cynnig Cynllun Hamdden Egnïol i rai 60+ y llynedd neu os ydych chi eisoes yn aelod,
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH