Bydd gwasanaeth bws newydd yn cysylltu canol tref Wrecsam a CEM Berwyn, diolch i gytundeb tendro gyda darparwr newydd.
Bydd Bws D&G yn rhedeg gwasanaeth bob awr rhwng Gorsaf Bws Wrecsam a CEM Berwyn ar ddydd Sul a Gŵyl y Banc.
Mae’r gwasanaeth newydd yn cael ei ariannu diolch i gytundeb Adran 106 – cytundeb a wnaed drwy’r broses gynllunio, pan roddwyd caniatâd ar gyfer CEM Berwyn gan y cyngor.
Cafodd y gwasanaeth ei dendro ynghyd â phedwar gwasanaeth bws arall yn Wrecsam, gafodd eu haildendro a’i cyflwyno i’r darparwr gwreiddiol, Wrexham Taxis.
Disgwylir i’r gwasanaeth newydd ddechrau rhedeg o 7 Ebrill.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn o weld bod y gwasanaeth hwn wedi’i dendro’n llwyddiannus, a bydd yn darparu cyswllt ychwanegol i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld neu’n gweithio yn CEM Berwyn.
“Mae gwasanaethau fel hyn yn hanfodol ac rwy’n falch o gyhoeddi bod y gwasanaeth hwn – a gefnogwyd gan arian a sicrhawyd drwy gytundeb Adran 106 yn ystod proses cynllunio’r cyngor – ar waith.”
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN