Mae Amgueddfa Wrecsam a thîm Amgueddfa Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer Teithiau Treftadaeth Pêl-droed y ddinas.
Darganfyddwch y lleoedd, y bobl a’r digwyddiadau sydd wedi llywio pêl-droed yn Wrecsam a ledled Cymru dros y 150 mlynedd diwethaf.
Bydd y daith dywys yn mynd â chi i rai o’r lleoedd mwyaf eiconig ac adnabyddus yn Wrecsam – cartref ysbrydol pêl-droed Cymru – ac yn cysylltu’r dotiau rhwng tirnodau, pêl-droed a chymuned.
Bydd teithiau Cymraeg a Saesneg yn rhedeg ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Gwener 16 Chwefror
Dydd Gwener 15 Mawrth
Dydd Iau 28 Mawrth
Dydd Gwener 26 Ebrill
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts: “Yn dilyn y llwyddiant a’r adborth gwych a gafwyd o’r teithiau treftadaeth pêl-droed cyntaf y llynedd, rydym yn falch iawn o gyhoeddi cyfres newydd sbon ar gyfer 2024.
“I’r rhai sy’n ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf, mae hon yn ffordd wych o archwilio’r ddinas a gweld rhai o’n tirnodau mwyaf eiconig. Os ydych chi’n byw’n lleol, dyma gyfle i ddarganfod mwy am y bobl, y lleoedd a’r digwyddiadau a helpodd i lunio gorffennol chwaraeon lliwgar Wrecsam.”
Am fanylion pellach a gwybodaeth archebu, ewch i tudalen eventbrite yr amgueddfa.
Mwy o gynnydd ar gyfer prosiect amgueddfa
Mae Amgueddfa Wrecsam bellach ar gau i’r cyhoedd er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o baratoi’r adeilad ar gyfer ei drawsnewid yn Amgueddfa Dau Hanner newydd.
Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu llwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth bêl-droed gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.
Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori hynod ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae disgwyl i’r amgueddfa newydd agor yn 2026.
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gydag arian gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Wolfson. Mae prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner wedi derbyn £1.3m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts: “Mae’r dyfarniad cyllid newydd gan Sefydliad Wolfson yn cynrychioli cynnydd mwy rhagorol ar gyfer y prosiect hynod gyffrous hwn.
“Bydd Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru newydd yn atyniad cenedlaethol newydd o bwys, yma yng nghanol y ddinas, gan ddenu ymwelwyr newydd i Wrecsam o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Ein diolch i Sefydliad Wolfson am ddyfarnu’r grant, ac i dîm y prosiect am y gwaith aruthrol y maent wedi’i wneud i ddod â’r prosiect i’r cam hwn.”
Darganfod mwy am brosiect yr Amgueddfa Dwy Hanner