Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #yfedllaimwynhaumwy
Mae’r Nadolig ar ei ffordd ac mae’n siŵr eich bod chi wrthi’n trefnu eich nosweithiau allan gyda’ch ffrindiau, teulu a’ch cydweithwyr. Ac os ydych chi’n bwriadu cael noson allan yn Wrecsam…. yna gwych! Mae arnom ni eisiau sicrhau bod eich noson mor ddiogel a phleserus â phosibl ac rydym ni’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd.
Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i wneud yn siŵr bod pawb sy’n ymweld â Wrecsam yn cael noson i’w chofio, am y rhesymau cywir. I wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd rydym ni’n cefnogi tafarndai a chlybiau i gydymffurfio â’r gyfraith a gwrthod gweini alcohol i bobl sy’n feddw gaib.
Mae arnom ni i gyd eisiau cael hwyl a mwynhau noson allan dda yn ein hardal. Fodd bynnag, yn ôl ymchwil diweddar, mae gor-yfed yn cael effaith fawr ar iechyd, yr heddlu a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Er enghraifft, mae 29% o droseddau treisgar yn Wrecsam wedi eu cyflawni dan ddylanwad alcohol, sy’n gallu arwain at siwrne i’r adran frys neu hyd yn oed i gell yr heddlu. Drwy gefnogi tafarndai a chlybiau i wrthod gweini pobl sy’n amlwg yn feddw, ein nod yw gwneud Wrecsam yn lle mwy diogel a phleserus i gael noson allan.
Meddai Dave Jolly, “Nid yw economi gyda’r nos Wrecsam yn darparu amgylchedd sy’n cefnogi, annog nac yn caniatáu ymddygiad meddw. Rydym ni’n gweithio’n galed i leihau ymosodiadau treisgar/rhywiol dan ddylanwad alcohol ac i sicrhau bod pawb yn cael noson allan dda a diogel.”
Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei olygu i chi…
- Fe all bar/clwb/tafarn wrthod mynediad/gwasanaeth i chi os ydych chi’n feddw
- Gallwch dderbyn hyd at £1000 o ddirwy os ydych chi’n prynu alcohol i ffrind sy’n amlwg yn feddw
Yn ddiweddar bu i Gyngor Wrecsam a’i bartneriaid lansio ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, er mwyn annog pobl ifanc i edrych ar ôl eu hunain drwy yfed llai cyn mynd allan… yn ogystal â chadw cyfrif o faint maen nhw’n yfed unwaith maen nhw’n cyrraedd clybiau a thafarndai Wrecsam.
I gael rhagor o wybodaeth yr ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy cliciwch yma.
LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN