Mae plant wrth eu bodd yn dysgu beicio am nifer o resymau… mae’n cynnig cyflymder, hwyl a rhyddid iddynt archwilio. Ond, wrth iddynt ddysgu, mae’n hollbwysig bod plant yn derbyn y wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnynt i gadw’n ddiogel.
Rydym yn falch o’ch hysbysu bod 762 o blant wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch beicio yn ysgolion Wrecsam yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf (2022/23). Cafodd y plant ddysgu sgiliau ymarferol, er mwyn eu galluogi nhw i feicio’n ddiogel ac yn hyderus ar y ffyrdd y dyddiau hyn.
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “I nifer o rieni a gofalwyr, gall meddwl am eu plant yn beicio godi ofn arnynt, felly rydym yn hynod falch bod 762 o blant wedi derbyn yr hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch beicio y llynedd. Maen nhw wedi dysgu sgiliau pwysig ac arferion da a fydd yn helpu i’w cadw’n ddiogel yn y dyfodol.”
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Rydym eisiau rhoi rhyddid i blant archwilio, ond rydym am iddynt fod yn ddiogel wrth wneud hynny. Mae addysgu plant am ddiogelwch ar y ffyrdd yn caniatáu iddynt fwynhau rhyddid beicio, gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i gadw’n ddiogel.”
Meddai Mark Jones, Seiclo Clwyd, “Mae ein cwmni yn hynod falch o fod wedi ennill y contract i barhau i ddarparu hyfforddiant beicio ar gyfer ysgolion Sir Wrecsam am flwyddyn arall. Rydym eisoes wedi dechrau eu darparu i ysgolion ac wrth ein bodd yn gweld y disgyblion yn datblygu eu sgiliau ac yn mwynhau’r sesiynau.”
Sut i gadw’n ddiogel
Dyma rywfaint o reolau syml y dylech annog plant i gadw atynt wrth ddysgu beicio:
- peidiwch â mynd trwy olau coch na beicio ar y palmant oni bai ei fod yn llwybr beicio dynodedig
- rhowch arwydd clir o’ch bwriad bob amser
- gosodwch eich hun ar y beic mewn modd lle gallwch weld a chael eich gweld wrth feicio
- gwneud cyswllt llygad â defnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig mewn cyffyrdd, fel eich bod yn gwybod eu bod wedi eich gweld
- os byddwch yn beicio gyda’r nos, defnyddiwch olau blaen gwyn a golau ôl coch sy’n gweithio, yn ogystal ag adlewyrchydd coch ar y cefn (mae’n gyfraith)
Cyngor i yrwyr
Gofynnir i yrwyr fod yn ymwybodol o rai camau gweithredu syml a all helpu i wneud y ffordd yn fwy diogel:
- bod yn amyneddgar â beicwyr, yn enwedig rhai ifanc sydd angen datblygu eu hyder
- yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr, dylai gyrwyr adael o leiaf 1.5 metr wrth oddiweddyd beicwyr ar gyflymder o hyd at 30mya, a gadael mwy o le iddynt wrth oddiweddyd ar gyflymderau uwch
- goddiweddyd yn ofalus bob amser, a dim ond goddiweddyd beiciwr pan fydd yn ddiogel ac yn gyfreithlon i wneud hynny. Os byddwch yn teithio ar ffordd gul, yn dod tuag at fryn neu wrth ymyl tro dall, ni ddylech hyd yn oed ystyried goddiweddyd
- cymryd gofal ychwanegol i gadw llygad am feicwyr mewn cyffyrdd
- gadael bwlch diogel a gwirio a oes unrhyw feicwyr y tu draw i unrhyw draffig rydych yn ei groesi
I gael rhagor o awgrymiadau cymerwch olwg ar ymgyrch PWYLLWCH! Llywodraeth y DU sy’n cynnwys llawer o gyngor defnyddiol.
Disgyblion Wrecsam yn Arwyr Digidol – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.