Uwchben. Cartref wedi ei chwblhau yn Clos Nant Silyn
Datblygiad gwerth £2.6m o gartrefi cyngor newydd ar y gweill yn Wrecsam
Bydd y prosiect, sydd i’w adeiladu gan fusnes gwasanaethau eiddo cenedlaethol, Liberty, ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn creu 13 o gartrefi newydd ym Mhlas Madog.
Bydd yn cynnwys cartrefi i fodloni ystod o anghenion gan gynnwys byngalos pump ystafell wely, cymysgedd o gartrefi pedair, tair a dwy ystafell wely a phedwar rhandy un ystafell wely.
Dyma ail gam cynlluniau datblygu adeiladau newydd y Cyngor, gan barhau gyda llwyddiant safle Nant Silyn ym Mharc Caia, a gwblhawyd ym mis Mehefin 2021 ac a gyflwynwyd gan Liberty hefyd. Datblygiad Nant Silyn oedd y datblygiad newydd cyntaf o dai cyngor i gael eu hadeiladu ers drôn i 30 mlynedd.
Bydd yr holl gartrefi ym Mhlas Madog ar gael ar gyfer rhent cymdeithasol ar ôl eu gorffen ym mis Mai 2022.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: Ar ôl ymweld â safle Nant Silyn roeddwn yn hynod falch o safonau’r gwaith adeiladu. Rwy’n hyderus y bydd Plas Madog yn gwneud cystal argraff. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi wedi eu rheoli’n dda i bara am oes i’n tenantiaid drwy ein tai newydd, a buddsoddi hefyd a gwella ein stoc bresennol”.
Dywedodd Ray Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Liberty: “Rydym wrth ein boddau i gael symud ymlaen gydag ail gam cynlluniau datblygu’r cyngor ar gyfer tai cyngor newydd yn Wrecsam. Roedd cwblhau safle Nant Silyn yn garreg filltir fawr i’r ardal leol, ac rydym am barhau gyda’r llwyddiant hwn gyda safle Plas Madog, fydd yn creu mwy o dai fforddiadwy newydd i ddiwallu anghenion pobl leol.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN