Cyn y Nadolig, fe symudodd Galw Wrecsam o’i safle presennol ar Stryt yr Arglwydd i Neuadd y Dref tra roedd gwaith yn cael ei gwblhau ar y lleoliad yn y Llyfrgell.
Rydym nawr yn falch o gyhoeddi y bydd Galw Wrecsam ar agor o ddydd Mawrth 14 Chwefror gan weithredu o’i safle parhaol yn Llyfrgell Wrecsam.
Mae nifer o’r gwasanaethau ar gael ar-lein 24 awr y dydd a dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf o hyd i gael mynediad at lawer o wasanaethau.
Yn y lleoliad newydd, fe fydd staff ar gael i’ch helpu chi i ddefnyddio ein sgriniau hunan wasanaeth yn ogystal â chynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gyfer nifer o wasanaethau sy’n cynnwys:
- Bathodynnau Glas
- Treth y Cyngor
- Budd-daliadau Tai
- Cynllunio
- Cludiant
Fe fydd cwsmeriaid yn parhau i dderbyn gwasanaeth galw heibio i gael cefnogaeth gyda
- Gofal Cymdeithasol i Oedolion
- Cefnogaeth Gwasanaeth Digidol
- Addysg
- Ymholiadau cyffredinol
Mae’r amseroedd agor ar gyfer Galw Wrecsam fel a ganlyn
Dydd Llun 9am – 4.30pm
Dydd Mawrth 10am – 4.30pm
Dydd Mercher – 9am – 4.30pm
Dydd Iau 9am – 4.30pm
Dydd Gwener 9am – 4.30pm
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol gwasanaethau corfforaethol: “O 14 Chwefror fe fydd gennym ni ardal hunan wasanaeth bwrpasol a staff wrth law i gynnig cefnogaeth ddigidol yn Llyfrgell Wrecsam, gan olygu y bydd nifer o wasanaethau ar gael i’r cyhoedd yn yr un lleoliad.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Aelod Arweiniol Cyllid a Pherfformiad: “Rydym wedi buddsoddi i ddod â Galw Wrecsam i leoliad canolog, gan sicrhau ei bod yn hawdd cael mynediad at y gwasanaeth hwn, gwasanaeth sy’n bwysig iawn, ac mae mewn lleoliad lle mae gwasanaethau eraill hefyd ar gael. Mae lleoliad y llyfrgell yn agos at Faes Parcio’r Llyfrgell sy’n ei wneud yn hygyrch i bobl gyda phroblemau symudedd, a hefyd gall y rhai sydd â bathodyn glas barcio am ddim. “Rydym yn disgwyl y bydd y symud yn gwella ein gwasanaethau wyneb yn wyneb yn gyffredinol i’r gymuned.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD