Yn rhan o’r ymdrech barhaus i wella tai cyngor ar draws y sir, fe hoffem sicrhau ein tenantiaid bod yr ynysydd rydym yn ei ddefnyddio ar waliau allanol yn cydymffurfio â safonau diogelwch.
Yn dilyn digwyddiadau trychinebus Tŵr Grenfell, mae cynghorau ar hyd a lled y DU wedi wynebu cwestiynau ynglŷn â’r math o ddeunyddiau roedden nhw’n eu defnyddio.
Hoffai Cyngor Wrecsam sicrhau ein tenantiaid a’n preswylwyr bod yr ynysydd rydyn ni’n ei osod ar waliau allanol wedi’i brofi’n drylwyr a’i fod yn cydymffurfio â Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu cyfredol.
Profion diogelwch tân annibynnol
Rydyn ni’n defnyddio dwy system ynysu waliau allanol, gan ddibynnu ar ba fath o adeiladau ydynt.
Mae’r ddwy’n systemau brics main/rendr wedi’u hynysu ac maent wedi’u bwriadu ar gyfer adeiladau isel, yn hytrach na’r system sgrin law hefo tyllau awyru a ddefnyddiwyd i adnewyddu Tŵr Grenfell.
Rydym wedi ymgynghori’n ddiweddar gyda’r ddau wneuthurwr sy’n darparu’r systemau ynysu waliau allanol i’r Cyngor.
Maen nhw wedi ein sicrhau ymhellach bod yr holl ddeunyddiau a ddefnyddir yn eu systemau wedi pasio profion diogelwch tân annibynnol, llawn.
Y rhaglen foderneiddio sylweddol
Ar hyn o bryd, rydym yn parhau â’r rhaglen ynysu waliau allanol ar draws y sir.
Mae’r gwaith yn cael ei wneud fesul cam ac fe fydd wedi’i orffen erbyn 2020.
Mae’r ynysydd yn cael ei osod ar eiddo heb fod ar ffurfiau traddodiadol, fel tai ffrâm ddur a phren.
Mae hi fel arfer yn anoddach ac yn ddrytach cynhesu adeiladau fel hyn na thai brics gydag ynysydd wal geudod.
Mae’r ynysydd waliau allanol wedi’i ddylunio i arbed ynni a’i gwneud yn rhatach i’n tenantiaid gynhesu eu cartrefi.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o raglen foderneiddio sylweddol y Cyngor i sicrhau ein bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru.