Mae Cyfeillion Bellevue, ynghyd â’r staff sy’n gofalu am y parc, wedi codi’r Faner Werdd ym Mharc Bellevue. Gwobr y Faner Werdd yw’r safon cenedlaethol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd ac mae’r cynllun dan ofal Cadwch Gymru’n Daclus yma yng Nghymru. Mae Bellevue Park wedi ennill y statws bob blwyddyn ers 2005.
Mae Parc Bellevue, sydd ger canol dinas Wrecsam, yn cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Yn Barc Edwardaidd traddodiadol, cafodd ei agor ym 1910, ac mae bellach yn ardal drwsiadus sy’n cael ei defnyddio gan lawer, ac sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau a man gwyrdd hamddenol yn agos at ganol Wrecsam.
Yn ddiweddar, datgelodd elusen yr amgylchedd, Cadwch Gymru’n Daclus, y 315 o safleoedd sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sydd o fri rhyngwladol. Y chwe safle yn Wrecsam fydd yn chwifio’r Faner Werdd fydd Dyfroedd Alun, Parc Acton, Tŷ Mawr, Acton, Bellevue a Mynwent Wrecsam, mewn cydnabyddiaeth o’u hymdrechion amgylcheddol, eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, a chyfranogiad cymunedol.
Gallwch weld y rhestr lawn o barciau yn Wrecsam (dolen: https://www.wrecsam.gov.uk/service/parciau-chefn-gwlad) a fideos (dolen: https://news.wrexham.gov.uk/wrexhams-country-parks-by-drone/) sy’n cynnig blas o nodweddion naturiol godidog y fwrdeistref sirol – llefydd gwych i gerdded, i redeg, i feicio neu i fwynhau picnic teuluol. Mae rhywbeth i bawb ym mannau awyr agored anhygoel Wrecsam!
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Terry Evans, “Mae hyn yn newyddion gwych a rhaid diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr i gyd. Mae ansawdd ein mannau gwyrdd yn dangos mor galed maen nhw’n gweithio.”
Yng Nghymru, mae cynllun y Faner Werdd dan ofal Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus:
“Rydyn ni wrth ein bodd o weld bod 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyflawni statws nodedig y Faner Werdd, sy’n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. “Mae mannau gwyrdd o safon yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith goreuon y byd yn gyflawniad enfawr – Llongyfarchiadau!”
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus


