Erthygl gwadd – Menter Iaith Fflint a Wrecsam
Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam yn un o’r pethau mwyaf cyffroes a phoblogaidd yn nghalendr digwyddiadau Wrecsam, ac eto eleni bydd llu o ysgolion, mudiadau, sefydliadau ac unigolion yn heidio i ganol y ddinas i ddathlu’r achlysur arbennig hwn ar ddydd Gwener, Mawrth 1af 2024.
Bydd yr orymdaith yn ymgynnull o flaen Neuadd y Dref (Llwyn Isaf) am12.45pm cyn cychwyn yn brydlon am 1.00pm dan arweiniad Band Cambria, gan deithio drwy’r dref cyn gorffen ar Sgwâr y Frenhines. Yna bydd cyfle i bawb cyd-ganu’r Anthem Genedlaethol a Chalon Lân dan arweiniad Andy Hickie.
Dyma estyn gwahoddiad cynnes ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Menter Iaith Fflint a Wrecsam i bawb ymuno â’r bwrlwm.
Dywedodd y Cyng. Andy Williams, Maer Wrecsam:
“Gyda’r ddwy flynedd nesaf yn argoeli i fod yn gyfnod cyffroes iawn gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar y gorwel, braf yw gallu dathlu diwylliant Cymru unwaith eto gyda’r orymdaith flynyddol odidog hon.”
Eleni hefyd, am y tro cyntaf, bydd y dathliadau yn parhau yn Nhŷ Pawb am 4pm, felly dewch draw i’r ardal fwyd i fwynhau adloniant byw gan Megan Lee a Meinir Gwilym, stondinau gyda chynnyrch o Gymru a sesiwn grefft i deuluoedd.
Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu Dydd ein Nawddsant, felly defnyddiwch #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth, wrth rannu lluniau neu ddilyn y digwyddiad drwy gydol y dydd.Dylai pawb sy â diddordeb mewn ymuno yn yr orymdaith gysylltu â Maiwenn Berry ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru