Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Defnyddio’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig…cynlluniwch eich ymweliad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham Guildhall
Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Defnyddio’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig…cynlluniwch eich ymweliad
Y cyngor

Defnyddio’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig…cynlluniwch eich ymweliad

Diweddarwyd diwethaf: 2021/02/26 at 2:24 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Recycling
RHANNU

Mae nifer o drigolion yn defnyddio ein tair canolfan ailgylchu dros gyfnod y Nadolig, ond eleni – yn fwy nac erioed – mae’n hollbwysig cynllunio eich ymweliad ymlaen llaw.

Cynnwys
Canolfan ailgylchu BrymboNodyn i’ch atgoffa o reolau’r ganolfan Ailgylchu

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Nadolig wastad wedi bod yn gyfnod prysur ar gyfer y canolfannau ailgylchu, ond gyda’r mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd gennym ar waith ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd yn rhaid ciwio i ddefnyddio’r cyfleusterau.

“Gallwch ein helpu ni drwy gynllunio eich ymweliad ymlaen llaw, a sicrhau eich bod wedi paratoi eich deunyddiau ymlaen llaw i’w rhoi yn y baeau cywir. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn treulio cyn lleied o amser â phosibl yn y ganolfan ac yn helpu i osgoi ciwiau. Dylech hefyd feddwl am amseriad eich ymweliad a cheisio osgoi’r amseroedd prysur. Diolch.”

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Canolfan ailgylchu Brymbo

Os mai Brymbo yw eich cyfleuster lleol, mae’n bwysig eich bod yn cynllunio eich ymweliad, gan y bydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad ymlaen llaw.

I wneud apwyntiad, ffoniwch 01978 801463. Byddwch yn ymwybodol y bydd y llinell archebu hon yn cau o 4pm ar 24 Rhagfyr tan 8am ar 29 Rhagfyr.

Felly, dylai unrhyw un sy’n dymuno ymweld â Brymbo ar Ŵyl San Steffan archebu apwyntiad ymlaen llaw cyn i’r llinell archebu gau.

Nodyn i’ch atgoffa o reolau’r ganolfan Ailgylchu

      • Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19, neu os ydych chi’n cael eich gwarchod am fod gennych gyflwr iechyd presennol.
      • Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes gyda chi.
      • Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel. Ffoniwch 01978 801463 i drefnu apwyntiad os hoffech chi ddefnyddio safle Brymbo.
      • Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg.
      • Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch os gwelwch yn dda, dylai plant aros yn y car drwy’r amser, ni chaniateir anifeiliaid anwes ar y safle.
      • Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
      • Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
      • Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd swyddogion yn gwisgo camerâu corff, felly byddant yn rhoi gwybod am unrhyw achos i’r heddlu.
      • Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).

    Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Grant Grant Trawsnewid Trefi i gwmpasu ardaloedd eraill yn Wrecsam
Erthygl nesaf Online learning Bydd ysgolion Wrecsam yn trosglwyddo i ddysgu ar-lein ar gyfer diwrnodau olaf y tymor

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor Medi 11, 2025
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor Medi 11, 2025
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y cyngor

Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd

Medi 11, 2025
Ty Pawb
Pobl a lleY cyngor

Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m

Medi 11, 2025
Wrexham Guildhall
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf

Medi 10, 2025
Ruthin Road Park and Ride location
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn erbyn QPR: rhowch gynnig ar barcio a theithio

Medi 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English