Atgoffir y cyhoedd sy’n teithio fod gwisgo masg wyneb yn orfodol y tu mewn sy’n golygu pan fyddwch chi’n aros am fws yng ngorsaf fysiau Wrecsam. Yn ystod ymweliad diweddar, gwelwyd fod nifer yn peidio dilyn y canllaw hwn ac mae hynny’n siomedig.
Nid yw’r pandemig drosodd eto ac rydym ni’n cadw llygad ar amrywiolyn Delta bob dydd gan ei fod yn effeithio ar ein nod o ddychwelyd i’r arferol.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae cludiant cyhoeddus yn hanfodol i nifer o bobl ac mae wedi dal i redeg drwy’r pandemig. Mae wedi sicrhau y gall gweithwyr allweddol gyrraedd eu gwaith yn ddiogel ac mae’n parhau i chwarae rhan fawr yn ein hadferiad ar ôl y pandemig.
“Ond dydyn ni ddim yn ddiogel eto, gan fod amrywiolyn Delta yn bryder ac mae astudiaethau’n awgrymu ei fod yn llawer mwy heintus nag amrywolion eraill. Dylech gofio hyn pan fyddwch yn yr orsaf fysiau er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod yn parhau ar y daith i adferiad a gwisgo masg wyneb pan fo angen.”
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gorsaf fysiau Wrecsam yn brysur iawn ac mae angen i bawb fod yn wyliadwrus oherwydd y perygl gan amrywolion. Mae’n orfodol gwisgo masg neu orchudd wyneb y tu mewn ac nid yw’r orsaf fysiau yn eithriad. Byddwch yn ofalus wrth deithio a dilynwch y canllawiau sydd yno er mwyn eich gwarchod chi a’ch cymunedau.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN