Oeddech chi’n gwybod bod yna grant y gallech wneud cais amdano tuag at gostau nifer o bethau pwysig y mae plant eu hangen ar gyfer yr ysgol?
Mae’r Grant Hanfodion Ysgol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn helpu pobl ar incymau isel i dalu am gostau nifer o eitemau ysgol gwahanol…a ddim o anghenraid y rhai mwyaf amlwg.
Gall y grant eich helpu i dalu am:
- wisg ysgol
- dillad chwaraeon ysgol
- gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach (er enghraifft chwaraeon, sgowtiaid a Guides)
- offer (megis bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu)
- offer arbennig lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau (megis dylunio a thechnoleg)
- offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol (megis dillad gwrth ddŵr ar gyfer dysgu yn yr awyr agored)
- gliniadur neu ddyfais tabled
Y grant sydd ar gael i blant sydd yn cychwyn ym Mlwyddyn 7 yw £200, ac i blant ym mhob blwyddyn ysgol arall, o’r dosbarth derbyn i fyny at Blwyddyn 11, y swm yw £125.
Meddai y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn cefnogi teuluoedd ar incymau isel, ac fe ellir ei ddefnyddio tuag at hanfodion amrywiol, felly pethau fel gwisg ysgol a dillad chwaraeon, ond ar gyfer pethau pwysig eraill hefyd y mae plant eu hangen yn ystod eu hastudiaethau.
“Boed yn ddyfais megis gliniadur neu ddyfais tabled, neu rywbeth penodol y maent ei angen ar gyfer pwnc penodol, mae’r grant yno i helpu i dalu rhywfaint o’r costau yma. Rwy’n annog rhieni a gofalwyr cymwys i ymgeisio am y grant yma sydd o gymorth amhrisiadwy i deuluoedd incwm isel yn ystod cyfnod parhaus o heriau costau byw.”
Ydw i’n gymwys i gael y grant?
Mae unrhyw blentyn sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n mynychu’r ysgol yn Wrecsam, ac sydd yn y grwpiau blwyddyn canlynol yn gymwys i gael y grant:
- Yn cychwyn yn y dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd
- Yn cychwyn blynyddoedd ysgol 1 i 11
- Mewn ysgol arbennig, mewn lleoliad adnodd anghenion arbennig neu mewn uned cyfeirio disgyblion ac yn 4 i 15 oed
Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal yn gymwys hefyd, waeth beth yw eu statws o ran prydau ysgol am ddim.
NI FYDD plant sy’n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio yn gymwys am y grant. NI FYDD plant sydd yn cychwyn yn y dosbarth derbyn ym mis Medi, ac sydd ond yn derbyn prydau trwy’r cynnig cynhwysol, yn gymwys chwaith.
Os oes mwy na 12 mis wedi pasio ers i chi gael eich asesu am brydau ysgol am ddim (neu os yw eich amgylchiadau wedi newid), bydd angen i chi ailymgeisio am brydau ysgol am ddim yn gyntaf.
Pan fyddwch chi wedi cael cadarnhad eich bod yn gymwys, yna gallwch wneud cais am y grant hwn.
Sut i ymgeisio
Gallwch wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol ar ein gwefan. Y dyddiad cau i gyflwyno eich cais yw 31 Mai, 2025.
Cyflwynwch un cais yn unig, os oes angen, gallwch ychwanegu nifer o blant i’r un cais (mae’n bosibl y bydd cyflwyniadau niferus yn oedi prosesu eich grant).
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y grant yn cael ei dalu trwy BACS i’ch cyfrif banc.
I ddysgu mwy am y pethau y byddwch eu hangen i fod yn barod ar gyfer tymor yr ysgol tarwch olwg ar ein tudalen ysgolion ac addysg.
Ydych chi’n defnyddio cludiant i’r ysgol?
Ydych chi’n ystyried defnyddio cludiant i’r ysgol? Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am gludiant i’r ysgol, eisiau dysgu am lefydd sydd wedi’u dyrannu (yr ydych chi’n talu amdanynt) neu eisiau dysgu am docynnau bws newydd, mae popeth ar gael yma 👉 https://www.wrecsam.gov.uk/service/cludiant-ysgol
Trefnu prydau ysgol
Wedi sortio prydau ysgol ar gyfer mis Medi? Mae gwybodaeth ynglŷn â gwneud cais am brydau ysgol am ddim, neu ganfod sut i archebu a thalu am brydau ysgol, a dysgu am ginio di-arian ar gael yma 👉 https://www.wrecsam.gov.uk/service/prydau-ysgol
Pennaeth profiadol i arwain Ysgol Clywedog – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.