Erbyn hyn, mae’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Byd Dŵr.
Bydd cyfleusterau’r gampfa wedi cau yn ystod yr wythnos hon er mwyn gwneud gwelliannau.
Ond bydd y gampfa a’i chyfleusterau newydd yn agored i’r cyhoedd y penwythnos hwn.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Cynhelir penwythnos agored yng Nghanolfan Byd Dŵr, ddydd Sadwrn, 19 Awst a dydd Sul, 20 Awst.
Bydd ystod o weithgareddau ar gael i bawb sydd eisiau rhoi cynnig ar y cyfleusterau newydd.
Cynhelir dosbarthiadau ymarferol ar lawr y gampfa, gydag arddangosiadau ar sut i ddefnyddio’r offer newydd gan Feistr Hyfforddwr a bydd hyfforddwyr eraill yn cynnal sesiynau blasu ar gyfer y dosbarthiadau ffitrwydd.
Mae ystod o offer newydd ar gael yn y gampfa, gan gynnwys y Skill Mill newydd gan Technogym; y cyntaf o’i fath sy’n galluogi athletwyr ac unigolion cyffredin i wella eu cryfder, cyflymder, stamina ac ystwythder drwy ddarparu ymarferion ar gyfer pob rhan o’r corff.
Bydd yr ystafell Omina newydd, sy’n caniatáu i lawer o bobl wneud amrywiaeth o ymarferion ar yr un offer, hefyd i’w gweld yn ystod y penwythnos agored.
Yn ogystal â hynny byddwn hefyd yn arddangos Allwedd Lles newydd y gampfa sy’n galluogi unigolion i nodi eu ffitrwydd a’u cynnydd wrth symud o amgylch yr offer gwahanol yn y gampfa.
Cynhelir digwyddiad, a fydd yn ddelfrydol i blant, yn y prif bwll nofio rhwng 2.30pm a 4.30pm.
“Annog pawb i alw heibio”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, sydd â chyfrifoldeb am Hamdden: “Bydd cyfleusterau newydd y gampfa yn sicr o greu argraff ac rwyf yn annog pawb sydd â diddordeb yn ein campfa a’n gwasanaethau hamdden ni i alw heibio i gael cipolwg ar yr offer newydd.
“Bydd y Penwythnos Agored yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd sy’n awyddus i ddefnyddio cyfleusterau’r Ganolfan Byd Dŵr – megis y pwll – yn amlach ac rwyf yn annog pawb sydd â diddordeb i fynychu’r penwythnos agored.”
Dywedodd Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Rydym yn gyffrous iawn bod cam cyntaf y gwelliannau i’r Byd Dŵr yn dod i ben a bydd cyfle rŵan i’r cwsmeriaid weld y gampfa a’r holl offer newydd.
“Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd pan oedd y gwaith yn cael ei gwblhau a gobeithiwn y bydd pawb yn ymuno â ni ar y diwrnod agored.
“Rydym nawr yn awyddus i symud ymlaen at gamau nesaf y gwaith, sy’n cynnwys adeiladu stiwdio feicio dan do a gwelliannau pellach i’r ganolfan.
“Hoffem ddiolch unwaith eto i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am yr holl gefnogaeth.”
I gael rhagor o wybodaeth am y penwythnos agored neu’r hyn sy’n cael ei gynnal yn y Byd Dŵr, ffoniwch y ganolfan ar 01978 297300
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL