Dychmygwch ddyfodol lle mae Wrecsam wedi datblygu technoleg i’w phweru ei hun gyda 100% o ynni adnewyddadwy.

Mewn Wrecsam ddi-garbon, byddem yn gallu ein bwydo ein hunain yn gynaliadwy a gadael hinsawdd ddiogel i fyw ynddi i’n plant a chenedlaethau’r dyfodol.

Pe byddech chi’n gallu byw yn y dyfodol fel hyn a bod gennych gyfle i anfon cerdyn post ‘yn ôl mewn amser’ i Wrecsam fel mae hi rŵan, beth fyddech chi’n ei ddweud wrthym ni?

Bydd Tŷ Pawb yn eich gwahodd chi i ysgrifennu eich neges yn y digwyddiad ‘Cardiau Post o’r Dyfodol’.

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

Sut allwn ni greu dyfodol y gellir ei ddefnyddio?

Mae Tŷ Pawb yn edrych ymlaen at groesawu Paul Allen yn ei ôl i Dŷ Pawb ar gyfer y digwyddiad dilynol hwn i ‘Wrecsam Ddi-garbon’.

Mae’n un o gyfres o ddigwyddiadau sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa fawr gyntaf yn Nhŷ Pawb, ‘Ai’r Ddaear yw Hon?’

Pwrpas ‘Cardiau Post o’r Dyfodol’ yw annog sgwrs barhaus am gynaliadwyedd a newid hinsawdd ac effaith hyn arnom ni a’n cynefin.

Gall deall y stori hon newid sut rydym yn meddwl am ein byd a ni’n hunain, gan ein gwneud ni’n fwy agored i bosibiliadau newydd a rhoi hyder i ni ddychmygu Wrecsam ddi-garbon.

Lle newydd cyffrous ar gyfer trafodaethau

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae Tŷ Pawb yn rhoi gofod newydd cyffrous i Wrecsam drafod pynciau sy’n cynnwys materion cymdeithasol a dinesig, yr amgylchedd, iechyd, hunaniaeth ddiwylliannol, cynaliadwyedd ac addysg.

“Rydw i’n falch iawn o weld Paul Allen yn dod yn ôl i Dŷ Pawb ar gyfer y digwyddiad hwn. Bydd ei ffordd arloesol o ddychmygu’r dyfodol yn cychwyn pob math o sgyrsiau am y materion sy’n dod yn fwyfwy pwysig yn y byd modern.”

Bydd ‘Cardiau Post o’r Dyfodol’ yn cael ei gynnal yn Nhŷ Pawb ddydd Iau 17 Mai, 6.30pm-8.00pm.

Mae’r digwyddiad am ddim ond byddai’n well cadw lle ymlaen llaw i wneud yn siŵr y gallwch ddod!

Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR