Am y tro cyntaf erioed, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
I nodi’r achlysur hanesyddol hwn, bu i ni ofyn i Senedd yr Ifanc Wrecsam a hoffen nhw enwebu person ifanc i siarad ar eu rhan ac annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Chawsom ni mo’n siomi, ac mae’n bleser gennym ni’n awr gael cyflwyno Katie Hill i chi. Mae hi am fod yn hyrwyddo cofrestru i bleidleisio ymysg pobl ifanc yn y misoedd i ddod, a dyma beth mae hi’n ei feddwl am y cyfle y mae pobl ifanc 16 ac 17 oed ledled Cymru wedi ei gael.
“Katie ydw i, dw i’n 15 oed ac yn Aelod o Senedd Ieuenctid y DU dros Wrecsam 2020-22. Beth mae hynny’n ei feddwl yn y bôn ydi fy mod i’n cynrychioli barn a safbwyntiau Pobl Ifanc Wrecsam, felly pan gododd y cyfle i Senedd yr Ifanc fynd ati i ymgyrchu i annog pobl ifanc 16 ac 17 oed yn Wrecsam i bleidleisio yn etholiad Cymru 2021, ro’n i’n gwybod bod rhaid i mi fod yn rhan o hynny!
“Efallai y bydd nifer ohonoch chi’n meddwl tybed pam fod merch 15 oed yn annog pobl ifanc i bleidleisio yn yr etholiad nesaf. Dydw i ddim yn cael pleidleisio fy hun eto, ond dyma fi’n dweud wrth bobl ifanc eraill fynd ati i bleidleisio! Wel, y rheswm ‘mod i’n gwneud hyn yw am fy mod i’n teimlo’n angerddol y dylai pobl ifanc ddefnyddio’u lleisiau.
“P’un ai’n ymgyrchu ar fater lleol, yn protestio dros gyfiawnder neu’n pleidleisio mewn etholiadau, dw i’n credu y dylai pob unigolyn hyrwyddo materion y maen nhw’n teimlo’n frwd yn eu cylch, er mwyn i bobl gael clywed eu lleisiau. Dan erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae gan bobl ifanc hawl i gael eu clywed gan y bobl hynny sy’n gwneud penderfyniadau, felly dw i’n teimlo ei bod hi’n bwysig i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed gael pleidleisio ac arfer yr hawl hwnnw.
“Er na alla’ i fy hun bleidleisio yn yr etholiad nesaf yma, gan na fydda’ i’n 16 oed, dw i’n dal i deimlo ei bod yn fraint cael ymgyrchu dros y mater hwn, ac yn gobeithio y bydd llawer o bobl ifanc Wrecsam yn defnyddio’u lleisiau i bleidleisio yn etholiad Cymru 2021.”
Fe hoffem ni ddiolch i Katie am yr amser y mae hi eisoes wedi’i roi i’r gwaith hwn, a gwyddwn y bydd wedi ymrwymo i annog pobl ifanc i gofrestru ac yna i bleidleisio’r flwyddyn nesaf.
Os ydych chi dros 14 oed, fe ddylech chi fod ar y gofrestr etholiadol – gall eich rhieni wneud hyn drosoch chi, ond cofiwch eu hatgoffa i wneud, gan y bydd yn newid mawr iddyn nhw.
Ar ôl gwneud hynny, gallwch gofrestru i bleidleisio yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION