Mae Llyfrgell Wrecsam yn cynnal digwyddiadau “Dysgu dros Ginio” bob mis sy’n rhoi ffyrdd newydd o ddysgu wrth gael hwyl.
Bydd y digwyddiad ym mis Tachwedd yn edrych ar Ryfel Wrecsam 1914-18.
Fel tref garsiwn, roedd Ffrynt Gartref Wrecsam yn rhan o ymdrech y rhyfel o adeg ei gyhoeddi hyd at y Cadoediad ym mis Tachwedd 1918, a bu etifeddiaeth y rhyfel yn rhan bwysig o lunio’r dref y tu hwnt i Ddathliadau Heddwch mis Gorffennaf 1919.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Dewch draw am daith wib o Ryfel Byd Cyntaf Wrecsam, yn y llyfrgell ddydd Mercher 7 Tachwedd, 1-2pm. Mae’r sesiwn am ddim ond rhaid archebu lle drwy ffonio 01978 292090 neu anfonwch e-bost at library@wrexham.gov.uk.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]