Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewisiwch yn doeth ar Noson Sant Ffolant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dewisiwch yn doeth ar Noson Sant Ffolant
Pobl a lleY cyngor

Dewisiwch yn doeth ar Noson Sant Ffolant

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 12, 2018 1:52 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Dewisiwch yn doeth ar Noson Sant Ffolant
RHANNU

Mae cynllunio’r noson berffaith yn ddigon o waith heb orfod poeni pa mor lân a hylan yw cegin y bwyty yr ydych chi’n bwriadu ei drefnu.

Efallai eich bod chi wedi darllen adolygiadau gwych ar-lein neu fod ffrind wedi argymell rhywle, ond cofiwch edrych ar y sgôr hylendid bwyd cyn bwyta allan.

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos sgôr sy’n seiliedig ar eu safonau hylendid. Mae’r sgôr yn cael ei dyfarnu yn dilyn arolygiad gan Gyngor Wrecsam. Mae busnesau yn yr ardal yn cael eu sgorio o ‘0’, sy’n golygu bod ‘angen gwella ar frys’ i’r sgôr uchaf o 5, sy’n adlewyrchu safonau ‘da iawn’.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Felly p’un a ydych chi’n mynd amdani go iawn ac yn trefnu bwrdd yn y bwyty gorau o gwmpas, neu’n bwriadu archebu pryd tecawê rhamantus i’w fwynhau gartref, cofiwch edrych ar y sgôr hylendid gyntaf.

Cofiwch gadw llygad am y sticer du a gwyrdd yn y ffenest neu ar y drws. Mae logo Llywodraeth Cymru arno ac mae’n nodi’r Sgôr Hylendid Bwyd. Os nad ydych chi’n gallu gweld y sticer, ewch ati i holi aelod o staff neu gallwch chwilio ar-lein drwy: www.food.gov.uk/sgoriau.

Os na allwch chi gael gwybodaeth am Sgôr Hylendid Bwyd busnes,dylech chi gysylltu â’ch awdurdod lleol.

Mae’n rhaid i fusnesau tecawê hefyd ddarparu gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’w Sgôr Hylendid Bwyd ar eu taflenni/bwydlenni.

Meddai Rebecca Pomeroy, Arweinydd Bwyd & Ffermio am Gyngor Wrecsam: “Mae Diwrnod Sant Ffolant yn gyfnod prysur i fwytai, caffis, tafarndai a busnesau bwyd lleol eraill.

“Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ei gwneud yn haws i bawb ddewis  pryd rhamantus mewn lle sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif. Mae Sgôr Hylendid Bwyd uchel yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi.”

Meddai Richard Bowen, Cyfarwyddwr Dros Dro’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: “Nid yw awyrgylch rhamantus neu wefan bwyty yn rhoi gwybod i chi sut siâp sydd ar ei safonau hylendid bwyd.

“Ond mae’r Sgôr Hylendid Bwyd yn rhoi syniad i chi o beth sy’n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig y gegin, felly dylech chi ystyried hynny wrth benderfynu ble i fwyta ar Ddiwrnod Sant Ffolant.”

Cofiwch wneud yn siŵr eich bod wedi ystyried popeth eleni, gan gynnwys y Sgôr Hylendid Bwyd, er mwyn sicrhau mai rhamant, ac nid hylendid gwael, sy’n ennill y dydd.

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Amgylcheddwyr blaengar yn lansio digwyddiad rhwydweithio Amgylcheddwyr blaengar yn lansio digwyddiad rhwydweithio
Erthygl nesaf Executive Board Clywch!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English