Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digon yw Digon! Camerâu symudol i’w defnyddio i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Digon yw Digon! Camerâu symudol i’w defnyddio i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon
Y cyngor

Digon yw Digon! Camerâu symudol i’w defnyddio i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon

Diweddarwyd diwethaf: 2021/08/24 at 9:28 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
fly tipping
RHANNU

Fel chi, rydyn ni wedi cael llond bol ar y lefelau annerbyniol o dipio anghyfreithlon sy’n digwydd yn y fwrdeistref sirol.

Dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno camerâu Teledu Cylch Caeëdig symudol a fydd yn caniatáu i ni fod yn hyblyg ac ymateb i adroddiadau o dipio anghyfreithlon, yn enwedig lle rydyn ni’n gweld digwyddiadau dro ar ôl tro.  Rydyn ni’n gobeithio y bydd y camerâu hyn yn ein cynorthwyo i ddal ac erlyn troseddwyr; a gwella ein cymunedau lleol yn y pen draw.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2021/22! Cofrestrwch cyn 30 Awst er mwyn cael 12 mis llawn.

“Rydyn ni’n mynd ar ôl troseddwyr yn weithredol”

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni wedi rhoi cynnig ar lawer o ymgyrchoedd ac wedi cynnig cyngor cyffredinol i’r rhai sy’n parhau i dipio’n anghyfreithlon, ond digon yw digon erbyn hyn ac rydyn ni’n mynd ar ôl troseddwyr.

“Nid dim ond llond llaw o drigolion sy’n defnyddio eu ceir i dipio sbwriel yn anghyfreithlon. Mae troseddwyr “dyn mewn fan” hefyd, sy’n cynnig eu gwasanaethau danfon i sgip, yn aml ar Facebook neu wefannau tebyg, yna’n gyrru i ardal neilltuedig i’w dipio. Gan adael dim dewis i’r cyngor ond cael gwared ag o.

“Ni allwn ddioddef hyn mwyach. Byddwn bellach yn defnyddio adnoddau i glirio unrhyw dipio anghyfreithlon, a hefyd i ddirwyo’r rhai sy’n gyfrifol.

Os dewch chi ar draws tipio anghyfreithlon yn eich ardal leol, neu tra byddwch chi allan yn rhywle arall, gallwch chi roi gwybod amdano ar-lein (https://www.wrecsam.gov.uk/service/cysylltu/rhowch-wybod-amdano) neu drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt. Peidiwch â chyffwrdd na symud y gwastraff, oherwydd fe allech chi fod yn ymyrryd â’r dystiolaeth a allai ein helpu i ddal y bobl sy’n gyfrifol.

Eich cyfrifoldeb chi ydyw

Efallai eich bod chi’n meddwl eich bod yn cymryd cyfrifoldeb drwy dalu rhywun i gasglu a chael gwared ar eich gwastraff; ond mae’n bwysig eich bod yn gwirio sut a ble y bydd eich gwastraff yn mynd yn y pen draw. Fel arall fe allech chi gael ‘Rhybudd Cosb Benodedig’ os canfyddir bod eich gwastraff yn cael ei dipio’n anghyfreithlon.

Gallwch ofyn am weld ‘trwydded cludwr gwastraff’ gan unrhyw un sy’n cynnig y math hwn o wasanaeth, er nad yw hyn o reidrwydd yn gwarantu y byddant yn cael gwared ar eich gwastraff yn iawn. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am wybodaeth am waredu!  Ni chaniateir i wasanaeth ‘dyn mewn fan’ ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, gan fod y rhain at ddefnydd trigolion yn unig.

 

Fly Tip
Household Recycling Centres
Digon yw Digon! Camerâu symudol i'w defnyddio i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon
Digon yw Digon! Camerâu symudol i'w defnyddio i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon
Digon yw Digon! Camerâu symudol i'w defnyddio i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon
Digon yw Digon! Camerâu symudol i'w defnyddio i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon
fly tipping

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Mae ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref wedi’u lleoli ym Mrymbo, Plas Madoc ac Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam. Drwy gymryd yr amser i ddefnyddio’r rhain, gallwch fod yn sicr na fydd eich gwastraff yn cael ei dipio’n anghyfreithlon ac mae’n fwy tebygol o gael ei ailgylchu os yn bosibl.

Gallwch ddarganfod mwy am y rhain yma (defnyddiwch y ddolen isod) gan gynnwys amseroedd agor https://www.wrecsam.gov.uk/service/ffyrdd-eraill-o-ailgylchu-yn-wrecsam/canolfan-ailgylchu-gwastraff-y-cartref

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar-lein.

ADNEWYDDWCH EICH CASGLIADAU BIN GWYRDD

Rhannu
Erthygl flaenorol Clinig dros dro Clinig dros dro yn Tesco Wrecsam (Awst 24) 16+
Erthygl nesaf green bin Wedi adnewyddu ond heb gael eich sticer? Peidiwch â phoeni, bydd yn cyrraedd yn fuan

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
housing repairs van
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English