green bin

Yn ddiweddar mae pobl sydd wedi adnewyddu eu casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 wedi bod yn cysylltu â ni i ddweud nad ydynt wedi cael eu sticer newydd.

Mae’r sticeri hyn bellach wedi eu hanfon ac yn dechrau cyrraedd cartrefi o amgylch Wrecsam, felly os nad ydych wedi cael eich un chi dros y dyddiau diwethaf, peidiwch â phoeni, bydd yn cyrraedd yn fuan iawn.

Diolch am fod yn amyneddgar

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i breswylwyr am fod yn amyneddgar wrth aros am y sticeri newydd. Rydym yn disgwyl i’r rhai sydd wedi cofrestru yn gynharach yn y flwyddyn gael eu sticer newydd dros y dyddiau nesaf, yn barod ar gyfer diwedd y mis. Dylai’r rhai sydd wedi cofrestru yn ddiweddar ganiatáu hyd at 10 diwrnod gwaith i gael eu pecyn sticeri newydd o’r dyddiad cofrestru.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2021/22! Cofrestrwch cyn 30 Awst er mwyn cael 12 mis llawn.

“Os nad yw eich sticer yn cyrraedd cyn eich casgliad cyntaf, rhowch eich bin allan ar y diwrnod casglu gan y gall ein criwiau ddefnyddio’r dechnegol yn eu cerbyd i weld os ydych wedi talu, er mwyn casglu eich gwastraff gardd. Diolch.”

Newidiadau i’r sticeri

Eleni, mae’r sticeri bin yn edrych yn wahanol gan nad ydynt yn dangos y cyfeiriad ar gyfer eich eiddo, ond peidiwch â phoeni ynglŷn â hyn.

Mae ein criwiau yn defnyddio’r dechnegol yn eu cerbydau i weld os yw eich eiddo wedi talu am y gwasanaeth, felly nid oes angen i ni gael y cyfeiriadau ar y sticeri pan fyddwn yn casglu’r gwastraff.

Rhowch eich sticer newydd ar gaead eich bin pan fydd yn cyrraedd. Diolch.

Cofrestrwch ar gyfer casgliadau gwastraff gardd cyn 30 Awst i gael gwasanaeth am 12 mis llawn (cyfle olaf)

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar-lein.

ADNEWYDDWCH EICH CASGLIADAU BIN GWYRDD