Ddydd Sul bydd Llwyn Isaf yn croesawu bandiau gwych wrth i Out of Focus: Music Hub gamu i’r llwyfan.
Mae’r digwyddiad yn un rhad ac am ddim a chewch fwynhau perfformiadau gan The Royson Club, Campfire Social, Seazoo, Tara Bandito, Lizzie Squad, Sage Todz, Cara Hammond, Andy Hickie a chôr y Delta Lions.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 2pm ac 10pm ac yn rhan o ddathliadau mis Medi i nodi llwyddiannau Wrecsam yn 2022, sy’n cynnwys cyrraedd rownd derfynol Dinas Diwylliant 2025, Tŷ Pawb yn cyrraedd rownd derfynol Amgueddfa’r Flwyddyn yr Art Fund a Wrecsam yn ennill statws dinas. Mae’r holl bethau yma wedi cynyddu gwybodaeth a magu hyder pobl yn y gweithgareddau diwylliannol amrywiol sydd ar gael yma yn Wrecsam, yn cynnwys sîn gelf a cherddoriaeth fywiog.
Gyda rhaglen ddogfen “Welcome to Wrexham” sy’n sôn am bryniant CPD Wrecsam yn cael ei darlledu’n fuan ar wasanaethau ffrydio o amgylch y byd, mae’n debygol y bydd hyd yn oed mwy o sylw yn cael ei roi i’r ardal a CPD Wrecsam.
Rydym ni’n parhau i godi gyda’n gilydd fel cymuned a defnyddio diwylliant unigryw Wrecsam fel catalydd i wneud newidiadau cadarnhaol.
Meddai Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawn yma yn Wrecsam, ac rydym ni wedi derbyn llawer o sylw yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
“Heb amheuaeth mae Wrecsam gwneud cynnydd anferthol ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn. Rydw i’n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r digwyddiad ddydd Sadwrn, a’r holl ddigwyddiadau eraill hefyd. Mae gennym ni raglen wych o artistiaid fydd yn perfformio’n fyw yn Llwyn Isaf, o amser cinio tan yr hwyr, gyda cherddoriaeth at ddant pawb – felly cofiwch ddod â’r teulu cyfan efo chi.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH