Gwahoddir rhieni a myfyrwyr ysgolion uwchradd o flynyddoedd 8, 9, 10 ac 11 i fynychu digwyddiad Gyrfaoedd Adeiladu Treftadaeth yng Ngholeg Cambria, Ffordd y Bers ddydd Mercher 17 Tachwedd rhwng 4.30pm a 8.30pm.
Mae’r digwyddiad yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth y genhedlaeth nesaf, uwchsgilio’r gweithlu lleol i ddeall y deunyddiau sy’n cael eu defnyddio mewn adeiladau traddodiadol, gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu treftadaeth a rhwydweithio i gynorthwyo i ddatblygu’r diwydiant adeiladu treftadaeth yn lleol.
Bydd crefftau arbenigol yn bresennol, o fosio plwm, gwaith gwydr a gwaith metel i benseiri cwmnïau a all eich cynorthwyo i gael gwell dealltwriaeth o weithio yn y diwydiant adeiladu ac adeiladu treftadaeth.
Gall fod yn gam cyntaf i ddeall gyrfa yn y diwydiant Adeiladu a Threftadaeth.
Dywed y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio, “Bydd y digwyddiad yn gyfle perffaith i bobl ifanc a’u rhieni weld y mathau o sgiliau sy’n brin sy’n cael eu datrys drwy’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol. Mae’r rhaglen yn cynorthwyo i ailwampio adeiladau hanesyddol o fewn Cynllun Treftadaeth Treflun Canol Tref Wrecsam wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri”
Dywed y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Rydym yn ffodus iawn o gael cyfleuster hyfforddi adeiladu o’r radd flaenaf yng nghampws Coleg Cambria ar Ffordd y Bers, felly byddwn yn annog disgyblion i ystyried gyrfa wobrwyol mewn adeiladu drwy ymuno â’r digwyddiad gyrfaoedd sgiliau Treftadaeth”.
Darperir y cyrsiau’n rhad ac am ddim drwy Raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian gan Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.