Mae Safonau Masnach Cymru yn rhybuddio bod £2 filiwn o arian cwsmeriaid Cymru mewn perygl oherwydd y cyfnod clo a gohirio digwyddiadau, gwyliau a llety.
Mae cyfnod clo Covid-19 wedi gorfodi i nifer o wyliau, archebion a digwyddiadau gael eu gohirio ac mae nifer o gwsmeriaid yng Nghymru yn poeni.
Mae’r cwynion yng Nghymru ar y mater yn dangos fod cwsmeriaid yn pryderu y bydd cwmnïau yn torri eu contractau drwy beidio â rhoi ad-daliadau neu ddefnyddio hawliau statudol.
Mae Safonau Masnach Cymru wedi adolygu’r cwynion hyn ar gyfer pedwar mis cyntaf y cyfnod clo, ac wedi nodi cynnydd o 221% o golled posibl i gwsmeriaid a chynnydd o 192% mewn cwynion; a’i gymharu â’r un cyfnod yn 2019.
Ar gyfer y cyfnod a adolygwyd, roedd gwerth y contractau mewn perygl yn fwy na £2,665,000.
Yma yn Wrecsam, mae’r ffigwr wedi codi o £42,108 yn 2019 i £79,832 yn 2020.
Disgwylir i’r broblem barhau drwy’r haf oherwydd cyfyngiadau ar symud.
Yn yr amseroedd hen, mae’n hanfodol fod cwsmeriaid yn gwybod eu hawliau ac i fusnesau fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau.
Mae hawl gan gwsmeriaid i gael ad-daliad os yw’n amhosibl darparu ei gwyliau neu ddigwyddiad oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth.
Yn amlwg, mae masnachwyr yn bryderus am hyfywedd eu busnesau ac yn ystyried ffyrdd hyblyg ac amgen i fodloni eu cwsmeriaid a diogelu eu hunain. Gallent gynnig dyddiad diwygiedig ac archebion amgen a gall hyn gael ei dderbyn gan gwsmeriaid.
Mae trefniadau gwirfoddol o’r fath yn dangos fod nifer o gwsmeriaid yn awyddus i gael gwyliau neu ddigwyddiad i edrych ymlaen atynt, ac mae hyn yn ei dro, wedi helpu’r busnesau hynny sy’n ei chael yn anodd oherwydd effeithiau ariannol y sefyllfa bresennol.
Fodd bynnag, os yw cwsmer yn gofyn am ad-daliad, yna mae’r gyfraith yn datgan bod angen rhoi ad-daliad.
Mae hefyd yn bwysig fod busnesau, os ydynt yn dymuno gwneud cynnig amgen, yn onest am hawliau’r cwsmer; ac ni ddylent geisio rhoi unrhyw bwysau arnynt i dderbyn y cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i fasnachwyr a chwsmeriaid ac mae’n amserol fod Safonau Masnach Cymru yn cyhoeddi’r cyngor hwn. Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau a sut i’w gweithredu os oes gennych unrhyw amheuon”.
Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru, “Mae cwsmeriaid a busnesau yng Nghymru o dan bwysau ariannol na welwyd ei fath o’r blaen. Mae’n bwysig fod pawb yn ymwybodol o’u hawliau a sut i hawlio ad-daliad. Mae Safonau Masnach Cymru yn gobeithio y bydd hawliau cwsmeriaid yn cael eu diogelu ac y bydd busnesau yn llwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn. “
Os oes angen cyngor neu wybodaeth bellach ar gwsmeriaid o ran gohirio archeb oherwydd Covid-19, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 ar gyfer gwasanaeth Cymraeg a 0808 2233 1144 ar gyfer y Saesneg.
Fel arall, gallwch gysylltu â nhw ar-lein
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN