Am 7.30pm ar 2 Hydref, bydd cyngerdd elusennol i godi arian ar gyfer The Not Forgotten Association yn cael ei gynnal ar safle Iâl Coleg Cambria sydd newydd gael ei ymestyn a’i ailwampio.
Mae The Not Forgotten Association yn mynd i’r afael â theimlo’n ynysig ac unig ymysg cymuned y Lluoedd Arfog.
Yng nghyngerdd Tatŵ Rhyngwladol Prydain – Slice of The British Isles, bydd cast a chriw o dros 100 yn cyflwyno sioe a fydd yn dathlu amrywiaeth diwylliannau Prydain a Rhyngwladol.
Bydd Côr Meibion y Rhos yn perfformio yn ogystal â Band a Drymiau Heddlu Sir Gaer, Peipiau a Drymiau Tatŵ Rhyngwladol Prydain gyda dawnswraig yr Ucheldir Claire Harvey ac Emma May School of Irish Dance.
Bydd The Mersey Morris Men yn perfformio Dawnsiau Morys Saesneg traddodiadol.
Bydd elfen dramor y cyngerdd yn cael ei gynrychioli gan China Spirit a fydd yn perfformio dawns llew Tsieineaidd lliwgar a bywiog.
Dywedodd Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae gennym ni hanes balch yn cefnogi’r fyddin yma yn Wrecsam, felly mae hi’n wych gweld lleoliad Iâl yng Ngholeg Cambria yn cael ei ddewis i gynnal y digwyddiad tatŵ milwrol.
“Rydym ni’n gobeithio y bydd hwn yn troi’n ddigwyddiad blynyddol a fyddai’n wych ar gyfer Wrecsam.
“Y flwyddyn nesaf, fe fydd Wrecsam yn cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog, pan fyddwn ni unwaith eto’n dathlu ac yn talu teyrnged i bersonél y lluoedd arfog a’u teuluoedd.”
Gellir prynu tocynnau ar gyfer cyngerdd Tatŵ Rhyngwladol Prydain drwy glicio ar y ddolen ganlynol:
https://www.ticketsource.co.uk/british-international-tattoo-in-concert-a-slice-of-the-british-isles
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar-lein.
ADNEWYDDWCH EICH CASGLIADAU BIN GWYRDD