Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus lle gallwch weld yr wybodaeth am gynllun arfaethedig ar gyfer gwelliannau i gyffordd ar hyd yr A483.
Fe fydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal yng Ngwesty’r Ramada Plaza yn Wrecsam:
- Ddydd Mercher, 23 Medi 2020, rhwng 10:00am a 20:00pm
- Dydd Iau 24 Medi 2020, rhwng 10:00am a 20:00pm
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Digwyddiadau galw heibio yw’r rhain, ac fe fydd yna arwyddion, mesurau cadw pellter cymdeithasol a system unffordd ar waith.
Fe atgoffir y cyhoedd i ddilyn canllawiau diweddaraf y llywodraeth os ydych chi’n mynychu’r digwyddiad yma, yn enwedig y canllaw newydd ar wisgo masgiau wyneb.
Fe fydd y digwyddiadau yma’n dilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Covid-19. Gwiriwch wefan y cynllun cyn mynychu’r digwyddiad rhag ofn bod y digwyddiad wedi’i ohirio.
https://llyw.cymru/gwelliannau-cyffyrdd-3-i-6-yr-a483
Rydw i eisiau cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma, ond methu mynd i’r digwyddiad
Fe allwch gymryd rhan ar-lein: https://llyw.cymru/a483-junctions-3-6-overview
Beth yw’r cynigion?
- Cyffordd 3 (Ffordd Wrecsam): Mân newidiadau i’r gyffordd bresennol ynghyd â gwella dulliau teithio llesol
- (Ffordd Rhuthun): Newidiadau mawr i’r gyffordd bresennol, yn cynnwys system gylchu newydd gan gadw’r drosbont bresennol dros yr A525, ynghyd â gwella dulliau teithio llesol ar hyd yr A525 ar draws yr A483.
- Cyffordd 5 (Cylchfan Plas Coch /Ffordd yr Wyddgrug): Gwella dulliau teithio llesol
- Cyffordd 6 (A5156/ Cyfnewidfa Gresffordd): Mân newidiadau i’r gyffordd bresennol ynghyd â gwella dulliau teithio llesol
Er mwyn cymryd rhan ar-lein, ewch i https://llyw.cymru/gwelliannau-cyffyrdd-3-i-6yr-a483
APPLY NOW