Mae Noson Tân Gwyllt i ddod yn fuan ac er ein bod yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau digwyddiadau sydd wedi’u trefnu gofynnwn i chi ystyried anifeiliaid ar y noson swnllyd hon.
Gall anifeiliaid anwes a domestig wynebu pryderon wrth glywed tân gwyllt ond mae pethau y gellir eu gwneud i osgoi hyn.
Rydym hefyd yn cefnogi ymgyrch ‘Bang Out of Order’ yr RSPCA sy’n galw am gyfyngiadau llymach ar dân gwyllt. Yn 2019 pleidleisiodd ein Cyngor llawn ar gynnig am dân gwyllt a chytuno:
- i fynnu bod pob arddangosiad tân gwyllt cyhoeddus a gynhelir ar dir y Cyngor a/neu sy’n gorfod cael caniatâd gan yr Awdurdod Lleol yn cael eu hysbysebu tair wythnos o flaen llaw, er mwyn galluogi trigolion i ragddarparu ar gyfer eu hanifeiliaid a phobl ddiamddiffyn;
- i hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd yn frwd am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn – gan gynnwys camau y gellir eu cymryd o flaen llaw i liniaru’r risgiau;
- i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn eu hannog i ddefnyddio unrhyw ysgogiadau sydd ganddynt i liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn a achosir trwy gynnal arddangosiadau tân gwyllt;
- annog cyflenwyr tân gwyllt lleol i werthu tân gwyllt ‘tawelach’ ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus; ac
- ysgrifennu at y Llywodraeth Genedlaethol yn gofyn am reolaethau llymach ar ddefnyddio tân gwyllt.
Beth allaf ei wneud?
Os oes gennych chi anifeiliaid anwes
Sicrhewch fod eich anifeiliaid i mewn cyn i dân gwyllt ddechrau a rhoi rhywle iddynt guddio neu rywbeth i’w diddanu. Os ydych yn pryderu siaradwch â’ch milfeddyg ymlaen llaw i gael cyngor.
Mae gan yr RSPCA gyngor gwych ar gyfer cadw anifeiliaid yn ddiogel a gellir darllen mwy yma.
Os ydych chi’n tanio tân gwyllt
Ni ellir mynd â phob anifail anwes neu anifeiliaid fferm dan do ar noson tân gwyllt a gall anifeiliaid fel ceffylau ddychryn a dianc gan niweidio eu hunain yn aml. Os ydych chi’n bwriadu tanio tân gwyllt mewn ardal lle mae da byw, ystyriwch ddefnyddio tân gwyllt sŵn isel, maent yn dda iawn ac yn llai o fygythiad i anifeiliaid.
Hefyd sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’ch cymdogion er mwyn iddynt gymryd y camau priodol.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Gall achosi pryder i anifeiliaid a’u perchnogion wrth i sŵn tân gwyllt eu dychryn. Byddwch yn ystyriol o berchnogion anifeiliaid anwes a da byw a rhowch wybod iddynt os ydych chi’n bwriadu tanio tân gwyllt”
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN