Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Erthygl gwestai gan Heddlu Gogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2026 4:07 pm
Rhannu
Darllen 11 funud
North Wales Police in Wrexham city centre
RHANNU

Mae gwella diogelwch merched a genethod yng nghanol dinas Wrecsam yn parhau bod yn flaenoriaeth allweddol i Heddlu Gogledd Cymru’r haf hwn.

Cynnwys
  • Beth ydy Ymgyrch Virtue?
  • Beth ydy Trais yn Erbyn Merched a Genethod (VAWG)?
  • Beth sy’n digwydd fel rhan o Ymgyrch Virtue?
    • Siarter Diogelwch Nos i Ferched Gogledd Cymru
    • Gweithgor VAWG Heddlu Gogledd Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam
    • Car Diogelu Wrecsam
    • Patrolau economi gyda’r nos
    • Ymgysylltiad
    • Helpu clybiau rhedeg lleol
    • Addysgu gyrwyr tacsis
    • Hafan- y-Dre
    • Addysg mewn ysgolion
    • Ceidwaid y Strydoedd
    • Gwasanaeth bws gyda’r nos
    • Sut dwi’n riportio digwyddiad i’r heddlu?
  • Sut arall alla i gael help?
    • Byw Heb Ofn
    • Cymorth i Ferched Cymru
    • Gofynnwch am Angela
      • Sut mae’n gweithio

Drwy Ymgyrch Virtue, mae swyddogion dinas Wrecsam yn gweithio efo partneriaid er mwyn ymdrin â digwyddiadau trais yn erbyn merched a genethod (VAWG) drwy addysg, atal troseddau a chodi ymwybyddiaeth ymgyrchoedd parhaus.

Mae’r fenter yn annog pobl herio ymddygiad misogynistaidd, a chymryd ymdriniaeth ‘dim goddef’ tuag at aflonyddu merched, er mwyn sicrhau bod pawb yn teimlo’n saff wrth ymweld a gweithio yng nghanol y ddinas.

Mae hefyd efo’r nod o roi’r hyder i ferched riportio pob digwyddiad, cynyddu ymwybyddiaeth cyhoeddus a herio agweddau niweidiol.

Dywedodd Uwcharolygydd Mark Williams: “Mae dinas saffach yn cychwyn ymhell cyn i drosedd gael ei riportio.

“Mae’n cychwyn efo addysg ynglŷn ag ymddygiad annerbyniol, cymryd camau ymarferol ac amlwg er mwyn sicrhau bod merched yn teimlo’n saff, a chreu amgylchfydoedd lle mae merched yn cael eu parchu, eu helpu a’u gwarchod.

“’Da ni’n gobeithio ysbrydoli cymunedau herio aflonyddwch, rhoi help i ddioddefwyr a riportio pryderon cyn i ymddygiadau waethygu.

“Wrth ymdrin â’r anghydraddoldeb sy’n sail i VAWG, mi allwn ni greu canol y ddinas lle na fydd merched a genethod yn ddioddefwyr yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, mae datrys y broblem yn fater i ni gyd.”

Beth ydy Ymgyrch Virtue?

Mae Ymgyrch Virtue yn enw cyffredinol am nifer o brosiectau, mentrau a gwaith parhaus ar draws canol dinas Wrecsam er mwyn atal digwyddiadau trais yn erbyn merched a genethod.

Mae ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod yn un o brif flaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru, ac mae gwella ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ymateb yr heddlu’n allweddol.

Beth ydy Trais yn Erbyn Merched a Genethod (VAWG)?

Mae trais yn erbyn merched a genethod yn unrhyw fath o drais wedi’i gyflawni gan ddynion yn erbyn merched yn anghymesur, er gall dynion hefyd brofi trais neu gam-drin.

Mae’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb merched, ac mae’n cynnwys trais rhywiol, cam-drin domestig, stelcian ac aflonyddwch, aflonyddwch cyhoeddus ac yn y gweithle, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas o dan orfod, yr hyn a elwir yn drais ar sail anrhydedd, camfanteisio a cham-drin merched a genethod mewn mannau ar-lein.

Beth sy’n digwydd fel rhan o Ymgyrch Virtue?

Dyma’r holl waith sy’n cael ei wneud gan swyddogion ar draws Dinas Wrecsam:

Siarter Diogelwch Nos i Ferched Gogledd Cymru

Mae’r fenter hon wedi’i llunio er mwyn gwella diogelwch pob merch sydd allan yng nghanol dinas Wrecsam gyda’r nos.

Mi gychwynnwyd hi gan Gyngor Sir Bwrdeistrefol Wrecsam ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn ei hyrwyddo.

Mi wnaiff helpu lleoliadau greu mannau mwy diogel ar gyfer merched yn ystod gyda’r nos, ac mae’n gwahodd busnesau lleol i ymgymryd ag agwedd ‘dim goddef’ tuag at aflonyddu merched.

Gweithgor VAWG Heddlu Gogledd Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam

Mae Swyddogion Gweithredol Pêl-droed HGC yn cyfarfod efo swyddog diogelu’r clwb yn chwarterol, er mwyn adolygu a chryfhau ymdriniaeth plismona diwrnod gêm yn barhaus.

Mae trafodaethau’n cynnwys ymgyrchoedd newydd, gwaith addysgu ac atal, hyfforddiant ar gyfer staff diwrnod y gêm er mwyn eu helpu adnabod arwyddion aflonyddwch neu gam-drin, ac ymgyrchoedd rhagweithiol er mwyn targedu ymddygiad sy’n gysylltiedig â VAWG.

Car Diogelu Wrecsam

Mi ddefnyddir y car diogelu ar draws dinas Wrecsam ar gyfer ystod o ddibenion diogelu, yn enwedig er mwyn helpu cefnogwyr ifanc a merched ar ddyddiau gêm.

Patrolau economi gyda’r nos

Mae swyddogion Wrecsam yn cynnal patrôlau amlwg yn rheolaidd ac yn cydweithio gyda safleoedd trwyddedig, diogelwch a Chyngor Wrecsam nos Gwener ac nos Sadwrn i roi sicrwydd i fenywod sy’n ymweld â’r ddinas neu’n gweithio ynddi dros nos ac i sicrhau bod canol y ddinas yn lle croesawgar ac yn ddiogel i fyw, gweithio a ymweld ag ef.

Ymgysylltiad

Mi fydd swyddogion yn cynnal digwyddiadau ac arolygon yng nghanol y ddinas sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch merched.

Mae’r adborth hyn yn ein helpu ni ddeall pryderon o fewn ein cymunedau ni’n well, ac yn ein caniatáu ni weithio tuag at wneud Wrecsam yn lle mwy diogel ar gyfer pawb.

Mae barn pawb yn bwysig, ac yn helpu llunio patrolau, mentrau a gwaith datrys problemau’r dyfodol yn y ddinas.

Helpu clybiau rhedeg lleol

Mae swyddogion yn helpu creu amgylchfyd mwy diogel a chynhwysol ar gyfer merched sy’n ymarfer corff yn y ddinas, drwy helpu clybiau rhedeg er mwyn sicrhau bod merched yn teimlo’n hyderus rhedeg heb ofni am eu diogelwch nhw.

Addysgu gyrwyr tacsis

Mae swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam er mwyn addysgu gyrwyr tacsis ynglŷn â’r ymgyrch “Ask Angela”, ac adnabod arwyddion sbeicio diodydd, cam-drin rhywiol a cham-drin domestig.

Hafan- y-Dre

Mae Hafan-y-Dre’n ganolfan lles yn Wrecsam sy’n cynnig man saff ar gyfer unigolion sydd efallai’n fregus neu’n sâl yn ystod noson allan.

Addysg mewn ysgolion

O fis Medi 2026, mi fydd Swyddogion Cyswllt Ysgolion HGC yn cyflwyno rhaglenni atal casineb at ferched a VAWG mewn ysgolion.

Ceidwaid y Strydoedd

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam yn gobeithio cyflwyno lefel ychwanegol o dawelwch meddwl ar gyfer y bobl sy’n mwynhau’r cyfleusterau gyda’r nos ar y penwythnosau.

Gwasanaeth bws gyda’r nos

Mae trafodaethau’n parhau efo Cyngor Wrecsam ynglŷn â chyflwyno gwasanaeth bws gyda’r nos, er mwyn helpu merched a genethod deithio adref yn saff.

Sut dwi’n riportio digwyddiad i’r heddlu?

Os ‘da chi wedi dioddef trosedd VAWG, neu efo unrhyw bryderon wrth fod allan yng nghanol y ddinas, cysylltwch efo Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.

Mi gewch chi hefyd riportio digwyddiad i ni ar-lein.

Sut arall alla i gael help?

Mi allwch chi hefyd gysylltu efo:

Byw Heb Ofn

Os ydych chi, aelod o’r teulu, ffrind, neu rywun rydych chi’n poeni amdano wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell Byw Heb Ofn Am Ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gyngor a chymorth am ddim neu i drafod eich opsiynau.

Cysylltwch ag ymgynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim.

Cymorth i Ferched Cymru

Os byddwch angen help a chymorth, gallwch gysylltu â Cymorth i Ferched Cymru yma.

Gofynnwch am Angela

Gofyn am Angela yw ffordd gyfrinachol i ofyn am gymorth os oes angen arnoch am unrhyw reswm.

Drwy ofyn am “Angela”, gallwch roi gwybod i bobl yn gyflym, yn dawel ac heb fawr o drafferth eich bod angen help.

Sut mae’n gweithio

Gofynnwch am “Angela” mewn lleoliad neu sefydliad sy’n cymryd rhan.

  1. Mae’r staff yn ei gydnabod fel cais am gymorth.
  2. Darperir cymorth yn gyfrinachol, yn y ffordd yr ydych chi ei eisiau.
  3. Gall hyn fod yn help i adael, cael cefnogaeth i aros, cysylltu â diogelwch neu uwchgyfeirio lle bod angen.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Ask for Angela – Official UK Site

Ychwanegodd Uwcharolygydd Williams: “Da ni’n gobeithio creu amgylchfyd lle gall pob merch fwynhau noson allan neu fynd i’r gwaith heb bryderu ynglŷn â’u diogelwch neu ddioddef aflonyddwch.

“Mae nifer o sefyllfaoedd lle gall ferched deimlo’n anghyfforddus, ac mae rhai ymddygiadau’n cael eu hanwybyddu fel ‘tynnu coes’ yn rhy aml. Mi all hyn gynnwys sylwadau sy’n cael eu cyfeirio at staff lletygarwch, ystumiau neu wneud llygaid amhriodol neu sylw di-eisiau.

“’Da ni’n annog pobl adlewyrchu ar eu hymddygiad nhw eu hunain, herio ymddygiad pobl eraill, ac ystyried sut gall eu gweithrediadau nhw effeithio ar y bobl o’u cwmpas nhw.

“Wrth i droseddau VAWG gael eu cyflawni gan y lleiafrif, mae eu heffaith nhw’n cyrraedd ym mhell y tu hwnt i’r rhai effeithir arnyn nhw’n uniongyrchol.

“Mae sgyrsiau cenedlaethol a digwyddiadau adnabyddus yn dylanwadu ar ba mor saff mae merched a genethod yn teimlo yn eu bywydau dyddiol nhw, ac mae’n hanfodol bod cymunedau’n cydweithio er mwyn creu amgylchfydoedd lle mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu parchu, eu helpu ac yn saff.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Pencampwr Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cyngor Wrecsam: “Mi ddylai pob merch allu dod i ganol dinas Wrecsam a theimlo’n saff.

“’Da ni’n hynod o falch gweithio efo partneriaid ar fentrau fel Siarter Diogelwch Nos i Ferched, addysgu gyrwyr tacsis, cynnig ceidwaid y strydoedd ac addysgu pobl ifanc yn ein hysgolion ni.

“Mae’r pethau hyn i gyd yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae’n bwysig nad ydyn ni’n gorffwys ar ein bri ac yn parhau gweithio’n galed er mwyn gwella diogelwch merched a genethod yn ein dinas ni.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Diweddariad ar y brechlyn MenB Diweddariad ar y brechlyn MenB
Erthygl nesaf y sgwrs genedlaethol: dywedwch eich dweud am y wlad yr hoffech gweld Dweud eich dweud yn y sgwrs genedlaethol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English