Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud eich dweud yn y sgwrs genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dweud eich dweud yn y sgwrs genedlaethol
Pobl a lle

Dweud eich dweud yn y sgwrs genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 17, 2026 11:39 am
Rhannu
Darllen 2 funud
y sgwrs genedlaethol: dywedwch eich dweud am y wlad yr hoffech gweld
RHANNU

Ydych chi’n teimlo bod cymunedau wedi dod yn rhanedig? Oes llai o lefydd i gyfarfod, cymysgu a meithrin cysylltiadau?

Mae’r teimladau hyn wedi cael eu mynegi ledled y DU, ond yn aml iawn y bobl y mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnynt fwyaf yw’r rhai sy’n teimlo nad oes ganddyn nhw lais yn yr hyn sy’n dod nesaf.

Mae’r Sgwrs Genedlaethol eisiau newid hynny.

Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Gymuned a Chydlyniant yn gofyn i chi gymryd rhan mewn ymarfer gwrando cenedlaethol. Mae hyn yn golygu eu bod nhw eisiau clywed eich barn chi am fywyd cymunedol, a oes rhywbeth yr hoffech chi ei newid, a sut hoffech chi weld y newidiadau hynny’n cael eu gwneud.

Bydd y wybodaeth a’r syniadau a ddarparwch yn cael eu defnyddio i lunio adroddiad gydag argymhellion a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, yr aelod arweiniol dros gyfranogiad: “Wrth i ffyrdd o fyw newid dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ymdeimlad traddodiadol o ‘gymuned’ yn dechrau cael ei golli. Mae bywydau gwaith prysur, technoleg sy’n cymryd lle rhyngweithio wyneb yn wyneb a dirywiad mannau cyfarfod lleol traddodiadol i gyd wedi chwarae rhan. Mae ymdeimlad o gymuned yn darparu cefnogaeth emosiynol, ymdeimlad o berthyn ac yn lleihau teimladau o ynysigrwydd, ond sut olwg sydd ar hynny yn y byd modern? Dyna pam rwy’n eich annog chi i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, i ddweud wrthym beth fyddai’n adfer yr ymdeimlad hwnnw o gymuned i chi, eich teulu a’ch ffrindiau.”

Gallwch ddweud eich dweud am fywyd cymunedol drwy fynd i dudalen y Sgwrs Genedlaethol ar wefan Eich Llais. Bydd yr arolwg yn cau ddiwedd mis Awst.

Rhannu
Erthygl flaenorol North Wales Police in Wrexham city centre Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn
Erthygl nesaf Butterfly trail entries displayed at Tŷ Pawb Llwybr pili-palod yng nghanol y ddinas yn cynnig gweithgareddau hwyliog i blant dros yr haf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English