Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd eleni.
Rhoddodd bron i 4,000 ohonoch chi’ch amser a mynd i’r drafferth o lenwi’r ddogfen, naill ai ar lein neu ar bapur, i fynegi eich barn am ein cynigion.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN
Amlygodd yr Ymgynghoriad bod diffyg o £13 miliwn yn y cyllid ar gyfer 2018/20. Mae hyn yn ychwanegol i’r £18 miliwn a arbedwyd eisoes dros y tair blynedd ddiwethaf. At ei gilydd, rydym ni wedi gorfod gwneud arbedion o £52 miliwn ers 2008.
Bydd y Cynghorwyr yn cael gweld y canlyniadau mewn gweithdai dros yr wythnosau i ddod cyn cwblhau manylion y gyllideb a phennu Treth y Cyngor ym mis Chwefror.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd eu hadborth i ni trwy’r ymgynghoriad. Mae gennym ni benderfyniadau anodd iawn i’w gwneud nawr er mwyn gosod cyllideb gytbwys a phennu Treth y Cyngor ar gyfer 2018/19. Rydym ni eisoes wedi dod o hyd i £52 miliwn ers 2008 ac mae angen i ni’n awr wneud toriadau o £13 miliwn ar gyfer 2018/19.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.