Mae deiliad tŷ yn Wrecsam wedi cael dirwy o £440 gyda chostau o £145 a Gordal Dioddefwr o £44 ar ôl iddo dalu rhywun i gymryd ei wastraff heb wneud y gwiriadau cywir. Nid oedd gan yr unigolyn drwydded cludo gwastraff cyfreithlon ac, yn ddiweddarach, cafodd y gwastraff ei dipio yn anghyfreithlon.
Symudwyd y gwastraff o gartref yn Rhiwabon a daethpwyd o hyd iddo’n ddiweddarach wedi’i dipio’n anghyfreithlon ar Stryt yr Eglwys, Penycae.
Mae gennym “ddyletswydd gofal” fel deiliaid tai i sicrhau bod gan unrhyw un yr ydym yn ei ddefnyddio i fynd â’n sbwriel Drwydded Cludydd Gwastraff swyddogol, a gallwch wirio unrhyw un ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau dilys yn fodlon dangos eu Trwydded i chi a’ch sicrhau y byddant yn cael gwared â’ch sbwriel mewn ffordd gyfrifol mewn safle gwastraff dynodedig priodol.
Os nad oes ganddynt Drwydded mae’n debygol iawn y bydd eich sbwriel yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, ac os gellir ei olrhain yn ôl i chi, mae perygl y byddwch yn derbyn dirwy o hyd at £5,000 a chael eich erlyn.
Gall ein swyddogion roi rhybudd cosb benodedig o £300 i ddeiliad tŷ fel dewis arall yn lle erlyniad.
Meddai Darren Williams, Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol, “Rydym yn ystyried tipio anghyfreithlon yn fater difrifol ac yn gwirio bob amser i weld a oes modd adnabod y troseddwr. Fel y dengys yr achos hwn, gall methu â gwneud y gwiriadau cywir gyda Chyfoeth Naturiol Cymru eich arwain at y llys ac achosi dirwy fawr.”
CLAIM WHAT’S YOURS