Mae disgyblion un o’n hysgolion cynradd wedi cael wythnos gyffrous wrth ddychwelyd i’r ysgol – gan eu bod wedi cael y cyfle i gael cipolwg ar eu safle newydd!
Cafodd y gwaith ar Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt ei gwblhau cyn dechrau blwyddyn ysgol 2019/20, ac roedd y disgyblion yn awyddus i weld y cyfleusterau newydd.
Dechreuodd y gwaith – a wnaed gan y contractwyr Read Construction – ddiwedd y llynedd, a chawsom y cyfle i groniclo rhai o’r cerrig milltir ar hyd y daith – gan gynnwys arwyddo trawst dur a ddefnyddiwyd yn y strwythur newydd, a chladdu capsiwl amser yn cofnodi hanes yr ysgol.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Dyma rai lluniau o’r ysgol yn ystod yr wythnos gyntaf yn ôl
Beth sy’n newydd yn yr ysgol?
Mae’r estyniad newydd wedi galluogi’r ysgol i uno ei hadeiladau babanod ac iau oedd ar wahân ar un safle.
Mae hefyd yn cynnwys parth dysgu hyblyg newydd sbon, sydd wedi ei gynllunio i ddiwallu anghenion y Cwricwlwm newydd i Gymru a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, yn ogystal â system sain-weledol di-wifr o’r radd flaenaf sy’n galluogi athrawon a disgyblion i gydweithio ar aml ddyfeisiau a phlatfformau ar unrhyw sgrin yn yr ysgol.
Daeth hanner yr arian ar gyfer y gwaith £3.2m i’r ysgol o gronfa Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru ac roedd yr hanner arall yn arian cyfatebol gan Gyngor Wrecsam.
Yn ogystal â’r bloc chweched dosbarth £1.7m yn Ysgol Morgan Llwyd, y gwaith yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt oedd un o’r prosiectau olaf i elwa o rownd Band A o gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif.
Bydd agoriad swyddogol ar gyfer y safle newydd yn digwydd yn flwyddyn newydd.
“Balch iawn o weld y gwaith wedi’i gwblhau”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Addysg ar Gyngor Wrecsam: “Dwi’n falch iawn o weld y gwaith wedi’i gwblhau, a hoffwn ddiolch i bawb am eu cydweithrediad, gwaith caled ac amynedd drwy gydol y cyfnod adeiladu ac adnewyddu – a diolch i’w gwaith nhw mae’r gwelliannau i’r ysgol wedi eu cwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb.
“Hefyd hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cyfraniad i’r prosiect drwy gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif – ac rydym yn edrych ymlaen at ragor o welliannau drwy ein hysgolion yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
Dywedodd Joel Moore, y pennaeth: “Roedd y disgyblion yn llawn cyffro o weld y cyfleusterau newydd yn yr ysgol, ac rydym yn edrych ymlaen iddynt allu manteisio ar y cyfleusterau sydd wedi eu gwella o fewn y safle newydd cyn gynted â phosibl.
“Hefyd hoffwn ddiolch i’r contractwyr Read Construction am eu gwaith caled a’u cydweithrediad, ac i Gyngor Wrecsam am eu cyfraniad o ran trefnu’r prosiect – mae eu gwaith wedi ei wneud i safon uchel iawn ac maent wedi sicrhau fod y cyfnod adeiladu wedi digwydd gyda’r amhariad lleiaf posib i staff a disgyblion.”
Dywedodd Martyn Davies, Cadeirydd y Llywodraethwyr: “Rydw i a fy nghyd lywodraethwyr wedi derbyn arfarniadau o’r gwaith hwn drwy gydol y cyfnod, ac mae’n rhaid dweud ein bod wrth ein bodd nid dim ond gyda’r cyfleusterau newydd, ond hefyd gyda chyn lleied o darfu sydd wedi digwydd o ran bywyd ysgol o ddydd i ddydd.
“Rhaid diolch i aelodau o’r gymuned am eu hamynedd yn ystod y gwaith, a’r diddordeb maent wedi ei ddangos yn y datblygiad – yn ogystal â’r contractwyr Read a oedd bob amser yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau.
“Heb yr holl waith caled gan y prifathro a holl athrawon a staff Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt, ni fyddai’r prosiect hwn fyth wedi bod mor llyfn, ac mae’n rhaid diolch i bawb arall fu’n rhan o hyn.
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r corff llywodraethu a phawb fu’n rhan o hyn dros y deuddeg mis diwethaf ac rwy’n gobeithio y gallwn ni fel corff llywodraethu barhau i gefnogi’r ysgol ymhob ffordd.
Dywedodd Alex Read, Cyfarwyddwr gyda’r contractwyr Read Construction: “Rydym wrth ein bodd o allu trosglwyddo cyfleusterau newydd yr ysgol yn barod ar gyfer dechrau’r tymor newydd. Rydym yn hyderus y bydd disgyblion a staff yn mwynhau eu hawyrgylch ddysgu 21ain ganrif newydd, sydd wedi ei ddarparu drwy raglen Ysgolion yr 21ain ganrif.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN