Arwyddion Cymraeg
Fel rhan o’r ymateb i bandemig COVID-19 rydym wedi gorfod creu nifer o arwyddion mewnol ac allanol newydd. Cofiwch, o dan safonau’r Gymraeg, fod rhaid i bob arwydd newydd fod yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg uwchben neu i’r chwith i’r testun Saesneg. Mae’n rhaid i’r broflen gynllunio derfynol hefyd gael ei chymeradwyo gan Gydlynydd y Gymraeg cyn cynhyrchu’r arwydd.
Mae’r ddogfen yma yn cynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam ynglŷn â chreu arwydd dwyieithog gan gynnwys nifer o arwyddion i’w hargraffu. https://bit.ly/3hHmdiI
Comisiynydd y Gymraeg – busnes fel arfer
Ysgrifennodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts atom ym mis Ebrill yn ymrwymo i oedi wrth ddelio â chwynion ac ymchwiliadau os oeddem yn dymuno iddo wneud hynny. Er gwaethaf hyn, fe wnaethom ddal ati i weithio gyda’r comisiynydd ar unrhyw gwynion newydd ac ymchwiliadau oedd eisoes ar y gweill. Rydym bellach wedi derbyn hysbysiad y byddwn yn dychwelyd at arferion rheoleiddio arferol ar 1 Awst, er efallai y bydd hynny mewn ffordd ychydig yn wahanol. Hoffai Stephen Jones – Cydlynydd y Gymraeg ddiolch i bob aelod o staff am eu cydweithrediad a’u hymateb cyflym i ymholiadau dros y misoedd diwethaf.
Negeseuon Peiriant ateb / Neges llais
Yn dilyn ymchwiliad gan gomisiynydd y Gymraeg, roedd hi’n ofynnol i ni gyflawni adolygiad llawn o bob neges a recordiwyd / negeseuon llais i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg. Nododd yr adolygiad nad oedd ambell recordiad yn cydymffurfio ac mae’r rhain wedi eu newid ers hynny. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith fod aelodau unigol o staff yn recordio eu negeseuon peiriant ateb eu hunain heb fod yn ymwybodol y gallai hynny arwain at gwyn pe bai siaradwr Cymraeg yn dod trwodd ar y switsfwrdd awtomatig.
Er mwyn osgoi unrhyw gwynion pellach, dylai unrhyw un sydd â neges peiriant ateb / neges llais adolygu a yw hyn yn dal yn angenrheidiol, ac os ydyw, bydd angen i chi drefnu fod siaradwr Cymraeg o fewn eich gwasanaeth yn recordio fersiwn dwyieithog ar eich cyfer.
Ydych chi’n siarad Cymraeg?
Os ydych yn aelod newydd o staff ac yn gallu siarad Cymraeg, cysylltwch gyda Stephen Jones ar cymraeg@wrexham.gov.uk er mwyn cael eich cynnwys ar restr y siaradwyr Cymraeg.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â safonau’r iaith Gymraeg, cysylltwch â Stephen.jones@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 298866.