Mae Diwrnod Chwarae eisoes ar y gweill, mae ganddynt sgiliau syrcas yn rhedeg ar draws yr sir yn ein safleoedd cynllun chwarae ar draws yr wythnos. Maent eisoes yn profi i fod yn poblogaidd iawn gyda y plant. Mi fydd yr cynlluniau chwarae arferol yn canolbwyntio ar y Diwrnod Chwarae.
Mae ein Geogelciau rwan yn fyw a mae rhai wedi cael ei darganfod yn barod gan Geogelcwyr awyddus, ond maent yn dal yn eu lle yn barod i’r person nesaf i ddarganfod. I gael fwy o wybodaeth ewch ar app Geogelciau ac ymunwch yn y helfa trysor ledled y byd (gorau oll mae’n rhad ac am ddim).
Mae y llyfrau gan Chwarae Cymru wedi cael ei dosbarthu yn barod i guddiad o 9:00 Dydd Merchar 4ydd o Awst felly gwnewch siwr i gadw llygad allan allwch ei ddarganfod ar draws Wrecsam. Mae unrhyw un sy’n ddigon ffodus i ddod o hyd i becyn yn cael ei cadw.
Mae Xplore Science yn paratoi i wneud ei llwybr cerdded yn chwaraeus gyda arbrofion gwyddoniaeth am ddim o amser cinio ymlaen.
Mi fydd maes chwarae antur Y Fenter a Cwn Gwenfro yn agored ac mi fyddant yn rhedeg gweithgareddau ar gyfer y Diwrnod Chwarae.
Hefyd mae yna posteri gan Clybiau Plant Cymru gyda cod QR ar draws Cymru sydd gyda syniadau o gemau i chwarae, mi fydd rhain fyny drwy yr haf.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN